Part of the debate – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 7 Chwefror 2023.
Mae'r cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn addo gwneud Cymru y genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop a chefnogi cyhoeddiad cynllun gweithredu LHDTC+. Mae heddiw felly yn ddiwrnod o falchder i Blaid Cymru, fel y mae i Adam Price gan mai ef yw'r arweinydd plaid LHDTC+ cyntaf yn y Senedd, gyda rhan o'r ymrwymiad hwnnw wedi ei wireddu wrth gyhoeddi'r cynllun gweithredu, cynllun gweithredu sy'n dangos ein huchelgais gyffredin ni â Llywodraeth Cymru mor eglur sef bod y genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop. Mae hynny'n dangos ein gwerthoedd cyffredin ni hefyd sef tegwch, goddefgarwch a chyfiawnder, a diogelu ac ymestyn hawliau, nid eu dwyn oddi ar bobl, a'n penderfyniad cyffredin i herio rhagfarn, casineb, anghydraddoldeb a gwahaniaethu ym mhob cwr o'n cenedl. Ond megis dechrau yw'r cynllun hwn, oherwydd mae'n mynd i'r afael â'r angen mawr am lunio Cymru decach, oherwydd mae hon yn genedl lle mae troseddau casineb yn erbyn pobl LHDTC+ yn cynyddu, ac mae troseddau casineb yn erbyn pobl drawsryweddol yn benodol yn codi i'r entrychion. Y llynedd, fe wnaeth Estyn ddarganfod mai bwlio homoffobig oedd y math mwyaf cyffredin o fwlio mewn ysgolion uwchradd. Felly, rydyn ni'n cytuno gyda Stonewall Cymru fod llawer o waith i'w wneud.
Ym Mhlaid Cymru, rydym ni'n cyfeirio yn aml at ein cenedl ni fel cymuned o gymunedau, ac rwy'n falch o weld sut mae'r cynllun hwn yn dangos ei fod yn un ar gyfer Cymru gyfan. Mae cydnabod cefn gwlad yn y profiad LHDTC+ yn enghraifft o'r ymagwedd hon sydd i'w groesawu, yn ogystal â'r angen am ymchwil pellach i fynd i'r afael â hyn. Felly, a wnaiff y Dirprwy Weinidog ddweud wrthym ni sut mae hi'n bwriadu datblygu hyn? Ac a yw hi'n cytuno y bydd meithrin cynghreiriau ledled ein cymunedau a'n sefydliadau ni, gan gydweithio gyda'r ffermwyr ifanc, er enghraifft, yn hanfodol bwysig ar gyfer cyflawni'r weledigaeth hon?
Mae yna groeso mawr i ddull croestoriadol y cynllun hefyd, ac, er nad yw honno'n nodwedd warchodedig, rwy'n falch fod y cynllun hwn yn cydnabod anghenion a hunaniaethau'r gymuned LHDTC+ yn y Gymraeg, ac rwy'n arbennig o falch bod partneriaeth Mas ar y Maes yr Eisteddfod Genedlaethol â Stonewall Cymru ac eraill yn cael ei amlygu a bod yna waith yn digwydd i ddatblygu hyn ymhellach.
Tynnodd y Dirprwy Weinidog sylw at ddull trawslywodraethol y cynllun hwn, ac yn sicr, mae hi'n galonogol gweld manylder ystyrlon yn sail i'r weledigaeth a'r tryloywder y bydd tîm ac adran Llywodraeth Cymru yn atebol am wireddu'r weledigaeth hon. Mae'r camau gweithredu i fynd i'r afael â gwahaniaethu yn y gweithle yn hanfodol ac ymarferol o'r cynllun hwn. Fodd bynnag, hoffwn gael rhywfaint mwy o fanylion am ganlyniad datganedig dealltwriaeth pobl LHDTC+ ac yn gallu defnyddio llwybrau ar gyfer adrodd am wahaniaethu mewn gweithleoedd yng Nghymru. Fel rydych chi'n cofio, rwyf i wedi codi adroddiad y BMA ar gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd yn y proffesiwn meddygol gyda'r Llywodraeth o'r blaen, sy'n amlygu bod meddygon LHDTC+ yn dioddef gwawdio a gwahaniaethu yn rheolaidd, ac mae'r staff yn dweud eu bod nhw'n aml yn teimlo nad ydyn nhw'n gallu lleisio eu pryderon gyda rheolwyr. Mae gan yr Alban a Lloegr ddulliau annibynnol ar waith ar draws eu hysbytai er mwyn i staff leisio eu pryderon yn hyn o beth mewn ffordd ddiogel, ond nid oes unrhyw beth fel hyn ar waith yng Nghymru eto, er bod gwaith yn cael ei wneud ar fframwaith. Fe dderbyniais sicrwydd y byddai dull trawslywodraethol y cynllun gweithredu yn mynd i'r afael â'r pryderon hyn, felly a wnewch chi roi sicrwydd i mi mai hynny fydd yr achos?
Fe hoffwn i roi croeso penodol i natur fesuradwy'r gweithredoedd a'r canlyniadau yn y cynllun, er enghraifft, ynghylch yr ymrwymiad i bwerau datganoledig o ran cydnabod rhywedd. Rydym ni wedi gweld yn yr Alban, er bod ganddyn nhw fwy o ymreolaeth i weithredu na Chymru yn y cyswllt hwn, mae'r consensws gwleidyddol trawsbleidiol yn Senedd yr Alban wedi cael ei rwystro mewn ffordd annemocrataidd a gwarthus gan San Steffan. Felly, wrth groesawu'r cynllun gweithredu hwn, rwyf i am ofyn i chi, Dirprwy Weinidog, ystyried sut allwn ni fod mewn gwirionedd y genedl fwyaf cyfeillgar i LHDTC+ yn Ewrop gydag un llaw wedi ei chlymu y tu ôl i'n cefnau gan San Steffan. Yn y tymor cyfagos, a wnewch chi roi gwybod i ni pa strategaethau y gallwn ni eu dilyn nhw i sicrhau bod y pwerau hyn wedi cael eu datganoli mewn ffordd briodol ac y gellir eu gweithredu o ran cydnabod rhywedd? Ac, ar gwestiwn cyfiawnder yn fwy eang, a ydych chi, Dirprwy Weinidog, yn derbyn mai'r unig ffordd gynaliadwy o lunio system cyfiawnder troseddol gynhwysol a diogel i'n cymuned LHDTC+ sy'n gweithio dros Gymru yw trwy greu system yma yng Nghymru, hyd yn oed os yw'r Blaid Lafur yn San Steffan yn parhau i ymuno â'r Torïaid i rwystro hynny?
Thema mis hanes LHDTC+ eleni yw 'Tu ôl i'r Lens'. Yn ddiamau, mae'r cynllun gweithredu hwn yn hoelio ein sylw ar y gwaith sydd ei angen i greu'r Gymru yr ydym ni'n awyddus i'w gweld drwy ystyried yn wirioneddol bob un sy'n galw Cymru yn gartref. Mae'n rhaid parhau â'r canolbwynt hwnnw, ac mae'n rhaid i'r sefyllfa wirioneddol hon gael ei harwain yn barhaus gan ein dull ni o gyflawni'r weledigaeth o fod yn genedl fwyaf cyfeillgar i LHDTC+ yn Ewrop.