Part of the debate – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 7 Chwefror 2023.
Rwyf am siarad yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai. Hoffwn ddiolch i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a'r Gweinidog Newid Hinsawdd am ddod i sesiynau tystiolaeth y pwyllgor.
Fel pwyllgor, Llywydd, gwnaethom gydnabod bod gosod cyllideb ddrafft yn wyneb pwysau economaidd eithafol yn her anodd i Lywodraeth Cymru. Roeddem yn croesawu'r cynnydd mewn cyllid i bob awdurdod lleol, ac yn arbennig bod y cynnydd cyffredinol yn uwch na'r ffigurau dangosol a ddarparwyd y llynedd. Ond er gwaethaf hyn, wrth gwrs, mae'r cynnydd yn is na chyfradd chwyddiant, ac rydym yn pryderu fod pwysau chwyddiant yn golygu y bydd awdurdodau lleol yn dal i wynebu penderfyniadau anodd a allai effeithio ar ddarparu gwasanaethau.
Dywedodd llywodraeth leol wrthym am orwariant o £200 miliwn ar draws awdurdodau Cymru yn y flwyddyn ariannol bresennol, y bydd yn rhaid ei adfer o gronfeydd wrth gefn, a hynny er gwaethaf y cynnydd mewn cyllid a ddarparwyd ar ddechrau'r flwyddyn. Nid yw dibynnu ar gronfeydd wrth gefn i dalu am orwario yn gynaliadwy, wrth gwrs, a dywedodd awdurdodau lleol wrthym eu bod eisoes yn poeni am adnoddau sydd ar gael ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Credwn ei bod yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yn paratoi nawr ar gyfer pwysau parhaus ar gyllidebau awdurdodau lleol er mwyn lleihau mwy o doriadau i wasanaethau sydd eisoes dan bwysau. Rydym felly wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn amlinellu sut mae'n gweithio gyda llywodraeth leol i baratoi ar gyfer pwysau parhaus yn ystod y blynyddoedd i ddod.
Mae gennym bryder penodol ynghylch yr arian cyfalaf i awdurdodau lleol. Rydym yn croesawu'r cynnydd mewn cyllid cyfalaf cyffredinol, ond rydym yn ymwybodol eto bod pwysau chwyddiant yn golygu na fydd awdurdodau'n gallu gwneud cymaint â'r cyllid hwnnw. Yn ôl yr awdurdodau lleol, unwaith yn rhagor eleni, mae cynnal a chadw priffyrdd yn dal i fod yn bwysau i'r rhan fwyaf o gynghorau. Mae'n siomedig felly nad oes arian cyfalaf priffyrdd penodol yn ei le. Cyn cwblhau'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, hoffem i Lywodraeth Cymru edrych eto ar y dyraniadau cyffredinol ar gyfer y gronfa trafnidiaeth leol a sicrhau bod digon o arian cyfalaf i awdurdodau lleol gynnal a chadw'r rhwydwaith priffyrdd a ffyrdd yn ddigonol.
Pryder arall cyson a basiwyd ymlaen i ni gan lywodraeth leol oedd yr her barhaus i recriwtio a chadw staff i weithio yn y sector gofal cymdeithasol. Bydd cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn siarad, fe wn, am eu pryderon ynglŷn â'r mater hwn. Rydym yn cefnogi argymhelliad y pwyllgor hwnnw y dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i ddarparu diweddariadau chwe mis ar waith y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol.
Llywydd, roeddem yn pryderu bod yr arian a ddyrannwyd i'r grant cyfalaf ar gyfer safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yn is nag mewn blynyddoedd blaenorol, yn enwedig oherwydd yn ystod ein hymchwiliad i ddarparu safleoedd, fe glywsom a gwelsom fod angen cynnal ac adnewyddu rhai safleoedd awdurdod lleol ar frys. Ond, fel pwyllgor, roeddem hyd yn oed yn fwy pryderus o ddysgu na fu unrhyw wariant o'r grant cyfalaf yn ystod y flwyddyn ariannol hon ac ni ragwelir y bydd yr un ohonyn nhw'n digwydd cyn diwedd mis Mawrth. Rydym yn credu bod hwn yn ddarlun plaen o'r rheswm pam y gwnaethom benderfynu ymgymryd â'n gwaith o ddarparu safleoedd ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn y lle cyntaf ac mae'n taflu goleuni ar faint y problemau wrth ddarparu llety digonol ac addas ar gyfer y cymunedau hyn. Mae'n ymddangos ei fod yn flaenoriaeth rhy isel i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, ac mae'n rhaid i hyn newid. Rydym wedi gwneud argymhelliad ar y cyd gyda'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ac rydym wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru nodi'r rhesymau dros ddiffyg cynnydd yn y defnydd o grant cyfalaf safle Sipsiwn a Theithwyr a sut mae'n bwriadu gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau eu bod yn manteisio ar y cyllid pwysig hwn. Dylai hefyd egluro beth fydd yn digwydd i'r tanwariant o gyllideb y llynedd.
Mae digartrefedd a gwasanaethau cymorth cysylltiedig yn faes arall sy'n peri pryder i ni yn y gyllideb ddrafft hon. Mae nifer digynsail o bobl mewn llety dros dro yng Nghymru ar hyn o bryd, ac mae hyn, wrth gwrs, yn rhoi pwysau adnoddau difrifol ar wasanaethau cymorth. Mae cyllid refeniw ychwanegol o £10 miliwn wedi'i ddyrannu ar gyfer atal digartrefedd, ond rydym yn poeni nad yw hyn yn ddigon i ymdrin â'r heriau presennol. Mae'r dyraniad grant cymorth tai yn parhau i fod yn £166.8 miliwn mewn termau arian parod. Mae hyn yn ostyngiad mewn termau real. Mae gwasanaethau sy'n cael eu hariannu gan y grant hwn yn hanfodol i atal a lleddfu digartrefedd. Rydym yn pryderu felly am yr effaith y bydd y toriad hwn yn ei chael ar y gwasanaethau hyn ar adeg pan fyddwn yn dibynnu arnyn nhw yn fwy nag erioed. Mae'n destun pryder hefyd bod staff rheng flaen, sy'n gweithio'n hynod o galed, yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd.
Rydym yn gwerthfawrogi'r her y mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn ei hwynebu wrth bennu'r gyllideb ddrafft, ond rydym yn argymell bod rhaid i Lywodraeth Cymru ei gwneud hi'n flaenoriaeth i ddarparu cyllid ychwanegol ar gyfer y grant cymorth tai cyn y gyllideb derfynol. Mae'n faes allweddol o wariant ataliol. Rydym hefyd yn pryderu am nifer y bobl mewn llety dros dro a'r 22,000 o eiddo gwag hirdymor yng Nghymru, ac rydym yn credu bod yn rhaid rhoi mwy o flaenoriaeth iddyn nhw unwaith eto. Ac wrth gwrs, yr 20,000 o gartrefi ychwanegol, Llywydd, er na fydd y rhain i gyd yn adeiladau newydd, rydym yn pryderu'n fawr y bydd yn anodd cyrraedd y targed hwn, o ystyried cost deunyddiau a phroblemau gyda'r gadwyn gyflenwi a'r gweithlu.
Datgarboneiddio yw maes olaf pryder y pwyllgor, Llywydd. Ond rydym yn gefnogol iawn i benderfyniad y Gweinidog i beidio â thynnu'n ôl ar safonau tai fel mesur arbed costau. Rydym yn wynebu argyfwng hinsawdd, a dyna'r penderfyniad cywir. Diolch yn fawr.