Part of the debate – Senedd Cymru am 3:52 pm ar 7 Chwefror 2023.
Diolch, Llywydd. Rwy'n hapus i gyfrannu ar ran y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol, a diolch i’r tîm clercio ac i’r Aelodau a phawb sydd wedi rhoi gwybodaeth inni sydd wedi bwydo i mewn i’n hargymhellion ni.
Yn ein hadroddiad ar y gyllideb ddrafft, ein prif neges yn llythrennol yw: diwedd y gân yw’r geiniog. Yn anffodus, mae gennym gryn bryder y bydd y setliad ariannol presennol un ai yn cyfyngu, neu’n waeth, yn dod i derfyn â sawl gwasanaeth pwysig y mae nifer o bobl yng Nghymru yn ddibynnol arnynt. Yn dilyn ein hadroddiad effaith costau cynyddol yn Tachwedd y llynedd, mae’n amlwg i ni fel pwyllgor bod yna fwy sydd angen ei wneud. Mae angen cymorth ychwanegol ar ein sectorau diwylliant a chwaraeon i ymdopi â’r argyfwng costau byw. Maent yn dal i wynebu effeithiau'r pandemig o ran cyfranogiad ac hefyd o ran eu hiechyd ariannol, ac felly, nid ydynt mewn sefyllfa i oroesi'r storm rydym ni i gyd yn ei hwynebu ar hyn o bryd.
Dywedodd y llyfrgell genedlaethol wrthym y byddai gostyngiad parhaus mewn cyllid cyfalaf yn peri risg parhaus i’n trysorau cenedlaethol, tra gwnaeth y cyngor celfyddydau ddweud y byddant yn croesawu’n frwd unrhyw arian ychwanegol y gellir ei roi i'r sector. Ar yr un adeg, mae un o'r deisebau mwyaf poblogaidd ar wefan y Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi pyllau nofio drwy ddarparu pecyn o gymorth ariannol wedi’i neilltuo y tu hwnt i’r setliad terfynol ar gyfer llywodraeth leol i sicrhau bod pyllau nofio’n gallu aros ar agor.
Cafodd Llywodraeth Cymru ganmoliaeth haeddiannol am fuddsoddi dros £140 miliwn yn y sectorau hyn i sicrhau eu bod yn goroesi yn ystod y pandemig. Yn anffodus, rydym ni o’r farn nad yw’r cymorth pellach sydd wedi ei amlinellu ar gyfer eleni a’r flwyddyn ariannol nesaf yn ddigonol, ac yn anffodus, dyw ein pryderon ddim yn stopio gyda’r sectorau diwylliant a chwaraeon. Rydyn ni i gyd yn ymwybodol o sefyllfa fregus y Gymraeg yn dilyn cyhoeddi canlyniadau siomedig y cyfrifiad cyn y Nadolig. Rydyn ni'n bryderus am effaith sylweddol chwyddiant ar allu darparwyr gweithgarwch cymunedol cyfrwng Cymraeg i barhau gyda lefelau presennol gwasanaethau. O ystyried sefyllfa fregus y Gymraeg, ac er mwyn helpu adfer wedi’r pandemig, rydyn ni eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn adolygu lefel y cyllid sydd ei angen er mwyn cynnal a hefyd gwella cyfleoedd ar gyfer gweithgarwch cyfrwng Cymraeg mewn cymunedau lleol ledled Cymru, o ganlyniad i gostau byw uwch. Mi fydd y pwyllgor yn edrych eto ar ganlyniadau’r cyfrifiad pan fydd mwy o ddata wedi ei gyhoeddi maes o law.
Felly, fel dywedais ar y dechrau: diwedd y gân yw’r geiniog. Rydym yn erfyn ar Lywodraeth Cymru i sicrhau mai nid dyma’r stori ar gyfer y sectorau yma trwy sicrhau cymorth pellach i roi hwb i'r sectorau hyn, a sicrhau nad yw’r buddsoddiad a wnaed yn ystod y pandemig yn cael ei wastraffu. Diolch.