4. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2023-24

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 7 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 3:56, 7 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Byddaf yn pleidleisio dros y gyllideb hon, er bod gen i bryderon difrifol iawn am y peth. Pe na bai'r Senedd yn gallu gosod cyllideb, does dim prinder aelodau o Lywodraeth San Steffan fyddai ond yn rhy hapus i ddweud, ‘Nid yw datganoli’n gweithio. Gallwn ni osod y gyllideb ar eu cyfer nhw oherwydd dydyn nhw ddim gallu ei wneud eu hunain.'

O ran codi treth incwm, fel yr awgrymir gan Blaid Cymru, er fy mod yn ddeallusol o blaid codi cyfradd y dreth incwm ar y ddau fand uchaf, mae yna anawsterau ymarferol os ydyn ni'n gwneud hynny ar ein pennau ein hunain, gan gynnwys pobl yn cofrestru fel trethdalwyr yn Lloegr. Mae yna lawer o ffyrdd i bobl sy'n ennill cyflogau uchel osgoi treth incwm, ond y ffordd hawsaf a symlaf yw talu mewn difidendau, gan fod incwm difidend yn cael ei drethu ar gyfradd is. Mae hyn, yn anffodus, y tu hwnt i reolaeth y Senedd, ond mae angen i'r Llywodraeth nesaf yn San Steffan fynd i'r afael â hyn. Byddai ychwanegu 1c at y gyfradd sylfaenol yn golygu y byddai'r trethdalwyr cyfradd sylfaenol yn talu £5 yn ychwanegol am bob £100 maen nhw’n ei dalu ar hyn o bryd. Fel y byddai fy etholwyr yn gallu dweud wrthych chi a gallaf i ddweud wrthych chi, mae hyn yn cyfateb i dorth fawr o fara, hanner pwys o fenyn a photel fawr o laeth. Ar adeg pan fo pobl yn wynebu argyfwng enfawr costau byw, nid yw cynnydd mewn treth sy'n tynnu arian allan o bocedi pobl gyffredin yn gam blaengar.

O ble all Llywodraeth Cymru gael arian ychwanegol? Mae gen i rai awgrymiadau. Yn gyntaf, capio taliadau fferm sylfaenol. Mae hyn yn cael ei gefnogi gan yr undebau amaethwyr yng Nghymru. Difidend Brexit yw hwn, rydyn ni allan o'r polisi amaethyddol cyffredin, felly nid oes angen talu'r taliadau hyn mwyach. Y taliad fferm cyfartalog yng Nghymru yw £15,000, ac rwy'n galw am sicrhau mai dyma yw’r lefel y mae'n cael ei chapio arni. Nid wyf yn gallu cael ffigwr a gyfer Cymru, ond o ffynonellau sydd wedi eu cyhoeddi, mae dros £100,000 yn cael ei dalu i lawer o ffermwyr ym Mhrydain, llawer ym Mhrydain nad oedd o reidrwydd yn ffermwyr gweithredol. Faint o fusnesau ffermydd sy'n cynnwys aelodau cyfredol neu gyn-Aelodau o'r Senedd sydd wedi derbyn dros £1 miliwn ers sefydlu'r Senedd?

Yr ail yw peidio â rhoi rhyddhad ardrethi ychwanegol i gwmnïau mawr: gweithredwyr bwyd cyflym, cadwyni coffi, cadwyni gwestai, cadwyni tafarndai a chanolfannau siopa y tu allan i'r dref. Mae cyfraddau busnes yn un o ddwy dreth mae busnesau’n eu casáu'n fawr. Ni allwch chi eu hosgoi, tra bod y dreth gorfforaeth wedi dod yn gyfraniad gwirfoddol i bob pwrpas gan fusnesau mawr. Ffordd arall o arbed arian fyddai cyflwyno deddfwriaeth na fyddai’n costio arian i wasanaethau cyhoeddus sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Yn olaf, cael gwared ar barthau menter. Nid oedd angen yr arian ychwanegol ar Ganol Caerdydd a Glannau Dyfrdwy i ddenu buddsoddiad, ac roedd y ffigyrau diwethaf a welais gan y lleill yn dangos mai ychydig iawn o swyddi oedd wedi’u creu a llai fyth heb adleoli. Wedi rhyddhau'r arian yma, tlodi, tai ac addysg ddylai’r flaenoriaeth fod. Addysg yw'r offeryn datblygu economaidd gorau sydd gennym ni. Mae'n buddsoddi yn ein plant a'n pobl ifanc. Mae gwariant ar ysgolion ac addysg bellach ac addysg uwch yn dod â mwy o wobr economaidd nag unrhyw wariant arall ar ddatblygiad economaidd. Pam mae'r ardaloedd hynny sydd ag unigolion cymwys iawn yn denu busnesau o'r tu allan a busnesau newydd? Drwy ddarparu cyflogaeth fedrus a chyflogau uchel heb orfod llwgrwobrwyo cwmnïau i ddod â'u ffatrïoedd cangen, sydd wedyn ar gau yn weddol rheolaidd ar ôl i amser redeg allan.

Mae Fferm Gilestone yn codi'r cwestiwn pellach: a ddylai Llywodraeth Cymru wario adnoddau prin ar gefnogi digwyddiadau nad ydynt o fudd i economi Cymru, lle nad yw mwyafrif y contractwyr yn rhai o Gymru, neu a ddylai Llywodraeth Cymru fod yn defnyddio arian o gwbl i gefnogi atyniadau twristiaeth? Os ydy pobl eisiau atyniad i dwristiaid, maen nhw'n mynd i'r banc, maen nhw'n benthyg ac maen nhw'n ei redeg fel busnes. Yn rhy aml o lawer, y diffiniad Cymreig o gyfalafiaeth yw, 'Faint o arian allwn ni ei gael allan o Lywodraeth Cymru?'

Roedd tai yn arfer bod o dan iechyd yn y cyfnod yn syth ar ôl y rhyfel. Roedd Attlee a Llywodraeth Lafur 1945-51 yn deall pwysigrwydd tai i iechyd. Ydy hi'n syndod bod pobl sy'n byw mewn cyflyrau oer, llaith yn fwy tebygol o ddioddef problemau iechyd? Bydd adeiladu tai cyngor, gan ddefnyddio cyfalaf trafodion i gefnogi landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, yn cynyddu maint y tai o ansawdd da i'w rhentu ac yn gwella iechyd cyffredinol y bobl sy'n byw yma.

Yn olaf, ar dlodi, mae nifer fawr o bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi cymharol ac yn defnyddio banciau bwyd yn rheolaidd, ynghyd â thorri nôl ar wres a goroesi ar fwyd oer. Nid oes gan Lywodraeth Cymru ddigon o bŵer i ddelio â thlodi, ond mae yna bethau y gellir eu gwneud. Fel y dywedodd Peredur Owen Griffiths yn gynharach, byddai cynyddu EMA yn unol â chwyddiant yn helpu plant o'r teuluoedd tlotaf i barhau ag addysg. Byddai darparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn y mae eu rhieni ar fudd-daliadau yn helpu iechyd ac addysg. Ac er nad yw'n fater cyllideb, mae angen i Lywodraeth Cymru barhau i bwyso am ddod â thaliadau sefydlog i ben ar ddiwrnodau pan nad oes ynni'n cael ei ddefnyddio. Mae hyn yn rhywbeth mae hyd yn oed yr Observer bellach wedi cymryd diddordeb ynddo. Diolch.