Part of the debate – Senedd Cymru am 4:41 pm ar 7 Chwefror 2023.
Rwy'n siarad y prynhawn yma yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Fel pwyllgor, rydyn ni i gyd yn ymwybodol iawn o'r anawsterau ariannol sylweddol sy'n wynebu'r Gweinidogion wrth osod y gyllideb eleni. Rydyn ni'n gwybod bod yr argyfwng costau byw yn effeithio'n anghymesur ar blant a grwpiau eraill o bobl agored i niwed. Mae tua 31 y cant o blant Cymru'n byw mewn tlodi cymharol.
Mewn arolwg o 7,873 o blant a phobl ifanc fis Tachwedd diwethaf, gwnaeth y comisiynydd plant ddarganfod fod 45 y cant o blant rhwng saith ac 11 oed, a 26 y cant o bobl ifanc rhwng 12 ac 18 oed, yn dweud eu bod yn poeni am gael digon i'w fwyta. Dyma'r gwir plaen o sut mae tlodi'n effeithio ar blant, a'r cefndir y mae Llywodraeth Cymru yn gosod ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2023-24 yn ei erbyn. Mae'n dangos pam mae hi mor bwysig i Lywodraeth Cymru roi cyfran deg o adnoddau i blant a phobl ifanc.
Wrth wraidd craffu'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru y mae'r cwestiwn allweddol hwn: a yw Llywodraeth Cymru wedi clustnodi digon o adnoddau i blant a phobl ifanc? Yn anffodus, nid ydyn ni'n gwybod yn sicr. Unwaith eto, ni wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi asesiad effaith ar hawliau plant o'i chyllideb ddrafft. Mae ein pwyllgor ni'n glir yn ein hargymhelliad ar hyn: mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gydymffurfio â'i dyletswydd i roi sylw dyladwy i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn wrth bennu ei chyllideb ddrafft.
Gwnaethon ni ofyn am lawer o wybodaeth wrth baratoi ar gyfer ein gwaith craffu, ac rydyn ni'n ddiolchgar am gydweithrediad Gweinidogion a swyddogion ar hyn. Yn anffodus, nid oedd yr holl dystiolaeth ysgrifenedig y gwnaethon ni ei chael i gefnogi ein craffu'n glir, ac edrychwn ni ymlaen at ymgynghoriad y Pwyllgor Cyllid sydd i ddod. Er gwaethaf yr heriau hynny o ran gweld yr hyn sy'n cael ei wario ar blant, rydyn ni wedi gwneud cyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru eleni, a rhai ohonyn nhw'n â'r nod o liniaru effaith yr argyfwng costau byw ar blant a phobl ifanc ledled Cymru.
Dylai'r rhaglen prydau ysgol am ddim i blant, sydd i fod i ddod i ben ar ôl hanner tymor mis Chwefror, gael ei hymestyn. Ni ddylai plant yng Nghymru orfod poeni am fod â digon i'w fwyta. Mae'r rhaglen prydau ysgol yn ffordd effeithiol o liniaru effaith tlodi bwyd ar ein hunigolion mwyaf agored i niwed. Rydyn ni'n croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i ymestyn y cynllun hyd yma ac yn ei hannog i wneud hynny eto.
Mae nifer o Aelodau eisoes wedi sôn am y lwfans cynhaliaeth addysg, ac rydyn ni'n credu bod yr amser wedi dod i'r lwfans cynhaliaeth addysg gael ei adolygu'n briodol. Yn ei hymateb i'n hadroddiad cyllideb ddrafft y llynedd, dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym nad yw wedi adolygu'r lwfans cynhaliaeth addysg yn rhannol oherwydd bod adolygiad yn 2014 yn awgrymu
'mai dim ond i leiafrif o fyfyrwyr yr oedd yr LCA yn ffynhonnell hanfodol o gymorth ariannol.'
Mae'r adolygiad hwnnw bron yn ddegawd oed erbyn hyn. Mae llawer iawn wedi newid ers hynny. Yn y cyfamser, gan nad yw trothwy cymhwysedd y lwfans cynhaliaeth addysg na'r gyfradd gymorth wedi'u diwygio ers 2011-12, mae'r lwfans cynhaliaeth addysg gwerth llai mewn termau real i lai o fyfyrwyr bob blwyddyn.
Mae'r argymhellion hyn, ochr yn ochr ag eraill, yn cyfrannu at argymhelliad terfynol ein hadroddiad. Eleni, rydyn ni'n ymuno â'r comisiynydd plant, Archwilio Cymru a llawer o rai eraill wrth alw ar Lywodraeth Cymru i lunio cynllun gweithredu ar dlodi plant gyda chamau clir, wedi'u costio, y mae modd eu cyflawni, eu mesur ac sydd yn gyfyngedig o ran amser. Rydyn ni'n deall bod y prif ysgogiadau ar gyfer lliniaru tlodi plant yn nwylo Llywodraeth y DU. Ond nid yw hynny'n nacáu'r angen i Lywodraeth Cymru nodi'n glir sut y bydd yn defnyddio'r ysgogiadau sydd ganddi, a'r arian sydd ganddi, i leihau tlodi plant yma yng Nghymru. Ac rwy'n gwybod nad ni yw'r unig rai fydd yn rhoi sylw manwl i ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhelliad hwnnw, yn benodol.
Ac yn olaf, hoffwn i ddiolch i fy nghyd-Gadeiryddion pwyllgorau yn y Senedd ac i aelodau'r pwyllgor am eu cefnogaeth a'u cydweithrediad eleni. Mae hi mor bwysig bod y Senedd mor gyfannol â phosibl wrth graffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru. Yn ogystal â defnyddio arbenigedd a gwaith ymgysylltu rhagorol y Pwyllgor Cyllid, rwy'n gwybod bod gan rai adroddiadau pwyllgor eleni—gan gynnwys ein rhai ni—argymhellion ar y cyd â phwyllgorau eraill sydd wedi rhannu meysydd o ddiddordeb. Rwy'n gobeithio'n fawr ein bod ni'n parhau i adeiladu ar y dull cydweithredol hwn o graffu mewn blynyddoedd i ddod. Diolch yn fawr.