Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 7 Chwefror 2023.
Hoffwn i roi rhagair i fy nghyfraniad i'r ddadl hon drwy ddweud diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog. Rwyf i wedi dweud droeon ei bod hi mewn swydd y byddwn i'n rhedeg miliwn o filltiroedd oddi wrthi—i osod cyllideb gwerth £19 biliwn. Hoffwn i ddiolch iddi hi am y trafodaethau yr ydyn ni wedi'u cael, ac am y cyfle i ystyried meysydd penodol yn fanwl. Diolch. Diolch yn fawr iawn.
Beth yw cyllideb Llywodraeth, oni bai ei bod yno i gefnogi ein pobl dlotaf a'n plant? Mae yna gân—wna i ddim ei chanu—ond rwy'n credu ei bod hi'n mynd rhywbeth fel hyn:
'Rwy'n credu mai plant yw ein dyfodol'.
Yn wir, y maen nhw, onid ydyn nhw? Rwy'n falch iawn o weld cymaint yn y gyllideb hon sydd wir yn canolbwyntio ar blant. Rwy'n adleisio llawer o'r datganiadau gan Jayne Bryant. Mae gennym ni brydau ysgol am ddim. Mae hynny'n ymwneud â bwydo'n plant—ein plant ni i gyd, beth bynnag yw eu cefndir. Mae'n ymwneud â gwneud yn siŵr nad yw ein plant â phrofiad o fod mewn gofal, yr ydyn ni'n gyfrifol amdanyn nhw—ni yw eu rhieni corfforaethol—yn mynd heb unrhyw beth drwy'r cynllun treialu incwm sylfaenol cyffredinol gwych ar gyfer plant â phrofiad o fod mewn gofal.
Ym myd addysg—ac mae'n rhaid i mi ddweud yma fod Kirsty Williams wedi gweithio ar hwn—y grant datblygu disgyblion, sydd mewn gwirionedd yn ystyried targedu'r plant hynny sydd fwyaf agored i niwed ac sydd angen ein cefnogaeth o ran addysg. Dyna beth ddylai diben cyllideb fod. Mae hi'n gymaint o demtasiwn, on'd yw hi, i restru'n union beth yr ydyn ni'i eisiau yn ychwanegol, ond dyna mewn gwirionedd yw beth fydda' i'n ei wneud yn ystod y munudau nesaf. Dof at rywbeth arall ar y diwedd, ond rydw i eisiau siarad am rai o'r pethau yr hoffwn i eu gweld ac sydd eisoes yn y gyllideb hefyd.
Deintyddiaeth. Mae llawer ohonoch chi'n gwybod fy mod i wedi codi hyn ar sawl achlysur. Ym Mhowys, mae gennym ni 5,000 o bobl ar y rhestr aros deintyddol, gydag 800 o blant yn dal i fethu dod o hyd i ddeintydd GIG. Mae angen i ni ystyried cyllid—nid dyna'r unig fater—ac rwy'n ddiolchgar, yn fy nhrafodaethau â'r Gweinidog, i edrych ar ddatblygiadau arloesol yr ydyn ni wedi'u cael. Ond mae angen mynd ymhellach ac yn gyflymach, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed mwy am hynny.
Gofal cymdeithasol. Rydyn ni'n gwybod bod hynny'n broblem fawr iawn. Rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £70 miliwn i'r sector gofal cymdeithasol, a fydd yn ariannu'r ymrwymiad cyflog byw hwnnw. Ond, fel rwy'n sicr bod pawb yn y Siambr yma heddiw yn ei wybod, mae angen mynd ymhellach; dim ond cam ydyw tuag at helpu i liniaru llawer o'r materion o ran gofal cymdeithasol.
Y trydydd maes yw ynghylch datgarboneiddio. Yr argyfwng hinsawdd yw'r peth pwysicaf sy'n ein hwynebu ni. Mae gennyf i ddiddordeb mewn dysgu pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer fersiwn newydd y rhaglen Cartrefi Clyd. Rydyn ni wedi bod yn aros ychydig o amser am hynny, ond mae hynny'n hanfodol er mwyn gwneud yn siŵr bod biliau pobl yn is, a'n bod ni'n ymdrin â'n hargyfwng hinsawdd. Rydych chi wedi clywed Luke Fletcher yn sôn am y cynllun cymorth brys i fysiau a phryderon ynghylch hynny, ac rwy'n rhannu'r rheini. Ond rydyn ni eisiau gweld trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bawb dan 25 oed. Byddai hynny'n helpu i ymdrin â'r argyfwng hinsawdd ac i helpu ein pobl ifanc.
Hoffwn i orffen drwy ddweud ein bod ni i gyd wedi sôn—gan gynnwys fi—am beth arall yr ydyn ni eisiau'i weld yn cael ei wario. Ond mae angen i ni ystyried incwm hefyd. Mae angen i ni ystyried sut yr ydyn ni'n mynd i ariannu'r hyn sydd ei angen arnon ni, yn enwedig yng ngoleuni Llywodraeth Geidwadol drychinebus a chyllideb hollol gywilyddus Liz Truss, sy'n rhoi cymaint o bobl mewn sefyllfa ansicr. Mae angen i ni ystyried yng Nghymru yr hyn y gallwn ni ei wneud. Ac er na fyddaf i'n cefnogi gwelliant Plaid Cymru, rwy'n credu bod trafodaeth i'w chael. Fy mhryder i yw na allaf i gefnogi cynnig sy'n ceisio ychwanegu baich treth ychwanegol ar y rhai sy'n ennill lleiaf, yn enwedig ar adeg argyfwng costau byw. Ond rwy'n credu bod trafodaeth i'w chael, ac rwy'n gobeithio bod y Gweinidog yn agored i hynny, i ystyried sut y gallwn ni drethu'r rhai sy'n ennill y cyflogau uchaf, oherwydd nhw yw'r bobl sy'n gallu fforddio cefnogi pawb yng Nghymru. Ac, wrth gwrs, ni fyddaf i'n cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr. Mae'n amlwg i bawb nad yw eu Llywodraeth nhw'n cyflawni ar flaenoriaethau pobl Cymru. Diolch yn fawr iawn.