Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 7 Chwefror 2023.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n siarad yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, ond, os oes gen i amser ar y diwedd, mae gen i un pwynt arall i'w ychwanegu, gan dynnu'r het honno.
Gosododd ein pwyllgor ein hadroddiad ar y gyllideb ddrafft brynhawn ddoe, a diolch i aelodau'r pwyllgor a'n tîm clercio am eu craffu cyflym a diwyd. Roedd ein gwaith craffu ar gynigion drafft Llywodraeth Cymru ar gyfer y gyllideb yn canolbwyntio'n bennaf ar wariant ar gyfiawnder. Fodd bynnag, fe wnaethom hefyd ystyried yn fanwl a oes gan Lywodraeth Cymru'r gallu i ddeddfu o fewn y cyd-destun cyfansoddiadol presennol, ac rydym yn ddiolchgar iawn i'r Cwnsler Cyffredinol am fynychu ein cyfarfod ar 16 Ionawr i ystyried y meysydd hyn yn fanwl.
Mewn termau cymharol, o'i gymharu â chyfrifoldebau eraill Llywodraeth Cymru, mae gwariant ar gyfiawnder o fewn y gyllideb ddrafft yn gymharol gyfyngedig, ac mae'n adlewyrchu pwerau cymharol gyfyngedig Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae ei effaith yn eang ac felly rydym yn cadw llygad barcud ar wariant arfaethedig y Llywodraeth yn y maes hwn. Nodwyd gostyngiadau bach i'r dyraniadau o fewn y gyllideb ddrafft sy'n cefnogi rhaglen trawsnewid cyfiawnder Llywodraeth Cymru, a hefyd i dribiwnlysoedd Cymru. Roeddem yn ddiolchgar i gael sicrwydd gan y Cwnsler Cyffredinol nad oedd y gostyngiadau hyn yn arwydd bod y meysydd hyn yn gostwng o ran eu blaenoriaeth. Yn benodol, yn achos tribiwnlysoedd Cymru, clywsom y byddai Llywodraeth Cymru'n monitro effaith unrhyw gynnydd mewn achosion neu wrandawiadau wyneb yn wyneb ar yr adnoddau sydd eu hangen ar y tribiwnlysoedd, ac felly argymhellwyd y dylai'r Cwnsler Cyffredinol roi diweddariadau amserol i ni ynghylch ei waith yn monitro hynny. Clywsom hefyd am y gwaith pwysig sydd ar y gweill i ddiwygio tribiwnlysoedd Cymru, yn dilyn argymhellion a wnaed gan Gomisiwn y Gyfraith. Hoffem weld mwy o fanylion am raddfa’r gwaith hwn, ac felly fe wnaethom argymell y dylai'r Cwnsler Cyffredinol roi manylion i ni am yr adnoddau tebygol fydd eu hangen i ddatblygu'r cynigion hyn.
Mae'n bwysig iawn i ni, yn ogystal â Senedd Cymru, allu mesur canlyniadau gwariant Llywodraeth Cymru. Clywsom, yn ystod ein sesiwn gyda'r Cwnsler Cyffredinol, y dylai adroddiad blynyddol cyntaf Llywodraeth Cymru ar ei rhaglen sicrhau cyfiawnder i Gymru gynnwys manylion am wariant Llywodraeth Cymru ar gyfiawnder a gwerthusiadau o ganlyniadau'r gwariant hwnnw. Gan y bydd cynnwys yr adroddiad blynyddol yn debygol o gyffwrdd â'n cylch gwaith ni a'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, byddwn yn archwilio cyfleoedd i graffu ar y cyd ar yr adroddiad blynyddol.
Nawr, bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'r pryderon sydd gennym fel pwyllgor am y cynnydd yn nifer Biliau seneddol y DU sy'n destun memoranda cydsyniad deddfwriaethol. Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol wrthym yn hollol glir bod, yn wir, digon o adnoddau gan Lywodraeth Cymru i gyflawni ei rhaglen ddeddfwriaethol. Fodd bynnag, yng nghyd-destun y nifer cynyddol hwn o femoranda cydsyniad deddfwriaethol, nid yw'n glir i ni fel pwyllgor a oes gan Lywodraeth Cymru ddigon o adnoddau i gyflawni'r holl ddeddfwriaeth y gall benderfynu ar unrhyw adeg eu bod yn angenrheidiol. O ganlyniad, rydym yn pryderu y gallai Llywodraeth Cymru, yn wir, fod yn defnyddio rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU i weithredu rhai o'i hamcanion polisi oherwydd efallai y bydd angen defnyddio llai o'i hadnoddau ei hun, sy'n cael yr effaith ychwanegol ar ddeddfwriaeth mewn meysydd datganoledig sy'n destun craffu llai manwl gan y Senedd. Nawr, rwy'n nodi bod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai hefyd wedi codi pryderon ar ôl clywed tystiolaeth mai'r her fwyaf wrth ddarparu rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru, mewn dyfyniadau, yw'r 'adnodd medrus sydd ei angen'.
Rydym hefyd yn poeni'n benodol am Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio). Mae effaith y Bil hwn ar adnoddau Llywodraeth Cymru os caiff ei ddeddfu fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd yn debygol o fod yn sylweddol. Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol wrthym fod Llywodraeth Cymru yn parhau i ganfod pa feysydd fydd angen sylw o dan ofynion y Bil. Rydym o'r farn ei bod yn hanfodol bod y darlun llawn o'r asesiad hwnnw'n cael ei rannu â ni ac â'r Senedd. Os yw Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir yn dod yn gyfraith, dylai Llywodraeth Cymru wneud hynny'n union. Rydym wedi argymell yn ein hadroddiad y dylai'r Cwnsler Cyffredinol adrodd o fewn mis i basio'r Bil, ac yn fisol wedi hynny.
Yn olaf, fe wnaethon ni ystyried gwariant Llywodraeth Cymru yn y dyfodol ar ei rhaglen i wella hygyrchedd cyfraith Cymru. Dywedwyd wrthym y cwrddir â'r costau i gyflawni'r rhaglen hon o bob rhan o bortffolios, a bod costau staffio ychwanegol dangosol o'r gwaith hwnnw wedi'u nodi yn y memorandwm esboniadol i Fil Deddfwriaeth (Cymru). Gan ei bod hi bellach dros dair blynedd ers i'r Bil ddod yn Ddeddf, rydym wedi gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol am ddadansoddiad o ba un a yw'r costau hynny'n profi i fod yn gywir.
Yn yr 20 eiliad olaf sydd gen i, os caf dynnu fy het, fe ddechreuais gyda chyfiawnder, ac rwyf eisiau gorffen gyda chyfiawnder cymdeithasol ac adleisio'r geiriau a gafwyd gan ambell gyd-Aelod, ein pryder am y gefnogaeth i gludiant bysiau yng Nghymru. Mae hyn yn fater o gyfiawnder cymdeithasol. Rwy'n poeni bod y wasgfa ar y gyllideb hon—ac mae gwasgfa ddiamheuol ar y gyllideb hon—yn mynd i olygu, pan ffrwydrodd Liz Truss yr economi, efallai ei bod wedi ffrwydro rhannau o'n hagenda polisi, gan gynnwys diwygiadau radical ar y bysiau—[Torri ar draws.] Na, dydw i ddim yn siarad fel Cadeirydd. Fe wnes i hynny'n glir, yn hollol glir, yn gwbl glir. Fel meinciwr cefn.