5. & 6. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) a'r penderfyniad ariannol mewn perthynas â’r Bil Amaethyddiaeth (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:35 pm ar 7 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 5:35, 7 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Bydd rhai darpariaethau'r Bil fframwaith hwn yn disodli cymalau yn Neddf Amaeth y DU 2020 sydd i fod i ddod i ben o dan gymal machlud ar ddiwedd 2024. Gyda rhai eithriadau, mae'r cymalau hyn yn adlewyrchu'r pwerau sydd gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf DU honno ar hyn o bryd. Fodd bynnag, dylid nodi bod y Bil hwn yn arbennig o eang o ran cwmpas, ac mae'n cyflwyno rhai elfennau newydd sylweddol. Mae'r elfennau newydd hyn yn cynnwys gwahardd defnyddio maglau a thrapiau glud yng Nghymru, a'r pwerau newydd i Gyfoeth Naturiol Cymru ynghylch trwyddedau torri coed mewn coedwigoedd. Ac felly, er y gellid dadlau bod y darpariaethau hyn yn amaethyddol eu natur, efallai y gellid hefyd fod wedi eu deddfu a chraffu arnynt ar wahân.

Roedd gan y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig 14 wythnos i graffu ar egwyddorion cyffredinol y Bil hwn. Fe wnaethon ni ystyried pob agwedd o'r Bil hyd eithaf ein gallu yn yr amser oedd ar gael. Gwn fod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi gwneud rhai argymhellion cryf ynghylch y dull a ddewiswyd gan Lywodraeth Cymru i ddeddfu ym maes amaethyddiaeth, ac felly ni fyddaf yn achub y blaen ar unrhyw beth y bydd Aelodau eraill yn ei ddweud am hynny, ond hoffwn dynnu sylw at rai o'r materion sy'n gysylltiedig â pholisi a nodwn yn ein hadroddiad.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnwys rhanddeiliaid wrth ddatblygu'r Bil hwn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda nifer o ymgynghoriadau a phroses gyd-ddylunio. Felly roedd yn syndod i ni ar y pwyllgor i ddechrau bod rhai materion sylfaenol nad oedd rhanddeiliaid yn gytûn arnynt o hyd. Mae'r union ddiffiniad o 'reoli tir cynaliadwy' wedi bod yn fater cynhennus. I'r darllenydd lleyg nid oes diffiniad, naill ai un pwrpasol neu wedi'i fenthyg, ar wyneb y Bil. Barn y Gweinidog yw mai'r amcanion rheoli tir cynaliadwy a nodir yn adran 1 o'r Bil yw'r diffiniad. Ac mae adroddiad y Pwyllgor yn nodi rhai dadleuon cryf dros sut y gellid cryfhau'r amcanion hynny yn adran 1, a'r rhestr o ddibenion ar gyfer cymorth yn adran 8. Mae rhywfaint o anniddigrwydd hefyd ynglŷn â'r cynnig i ganiatáu i'r diffiniad o 'amaethyddiaeth' gael ei ddiwygio gan is-ddeddfwriaeth, ac rydym wedi argymell bod y Gweinidog hefyd yn adolygu'r agwedd hon ar y Bil ac yn ceisio lliniaru pryderon.

Ymddangosai bod diffyg eglurder a/neu ddiffyg dealltwriaeth gan randdeiliaid yn ymwneud â bwriadau Llywodraeth Cymru gyda rhai o'r darpariaethau yn y Bil hefyd. Yn benodol, mae hyn yn wir am gefnogaeth i weithgareddau ategol, a sut y gallai hyn fod o fudd i'r gadwyn gyflenwi bwyd-amaeth. Mae argymhelliad 16 o'n hadroddiad yn gofyn i'r Gweinidog roi mwy o eglurder ar hyn. Roedd disgwyl mawr hefyd gan randdeiliaid y byddai safonau gofynnol cenedlaethol yn nodwedd o'r ddeddfwriaeth hon, ac roedd cryn siom nad oedd hyn yn wir. Felly, hoffai'r pwyllgor i'r Gweinidog nodi ei bwriadau ar gyfer y waelodlin reoleiddio ar gyfer y sector yn y dyfodol. Rydyn ni hefyd wedi gofyn i'r Gweinidog roi ystyriaeth bellach i les anifeiliaid a swyddogaeth milfeddyg y fferm yn y fframwaith deddfwriaethol newydd.

O'n gwaith craffu roedd yn amlwg bod angen gwaith pellach i fynd i'r afael â phryderon ffermwyr tenant a'r rhai sy'n ffermio ar dir comin, gan sicrhau eu bod yn gallu manteisio'n llawn ar y cymorth sydd ar gael o dan y cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig. Rhaid i anghenion newydd-ddyfodiaid i'r sector hefyd gael eu cefnogi'n llawn gan y Bil. Rydym ni wedi croesawu ymrwymiad y Gweinidog i waith pellach yn y meysydd hyn, gan y bydd monitro effeithiolrwydd ac effaith y cynllun ffermio cynaliadwy yn hanfodol.

Yn sgil y dystiolaeth a dderbyniodd y pwyllgor, mae ein hadroddiad wedi awgrymu gwelliannau i ddarpariaethau adrodd y Bil, yn ogystal â'r pryderon a godwyd gyda ni am ddarpariaethau casglu data. Mae'r Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru dros safonau marchnata, ac roedd ein hymchwiliad yn codi cwestiynau pwysig am wahaniaethau ar ôl ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a swyddogaeth y fframweithiau cyffredin. Yn ein hadroddiad rydym ni hefyd wedi cynnwys argymhelliad ynghylch asesu effaith cytundebau masnach ar sector amaethyddol Cymru.

Wrth gloi, Llywydd, pwysleisiaf eto fod hwn yn ddarn eang ac arwyddocaol iawn o ddeddfwriaeth. Felly, rwy'n gwahodd pob Aelod i ystyried ystod y dystiolaeth a'r argymhellion yn ein hadroddiad, ynghyd â safbwyntiau'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cyllid ar y Bil fel y'i cyflwynwyd. Fel y noda ein hadroddiad, o ran Rhan 5 o'r Bil, roedd mwyafrif clir o'r pwyllgor yn cefnogi'r darpariaethau i wahardd defnyddio maglau, er bod cefnogaeth gan ddau Aelod i'r Gweinidog roi ystyriaeth bellach i system drwyddedu reoledig iawn.

Fel y dywedais yn gynharach, bydd y ddeddfwriaeth hon yn llunio tirwedd amaeth Cymru a'r amgylchedd am ddegawdau i ddod, ac felly mae'n rhaid i ni sicrhau bod y darn hwn o'r ddeddfwriaeth yn gwbl gywir. Wrth ystyried yr ystod o dystiolaeth a gyflwynir i ni, a'n 30 argymhelliad, rydym yn argymell i'r Senedd gytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) hwn a'i bod yn mynd ymlaen nawr at yr ail gyfnod, sef y cyfnod diwygio. Diolch, Llywydd.