Part of the debate – Senedd Cymru am 6:08 pm ar 7 Chwefror 2023.
Rwy'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon. Mae'n un o'r darnau pwysicaf o ddeddfwriaeth, rwy'n credu, y bydd y Senedd yma yn craffu arno. Nid yn unig mae'n llunio dyfodol ffermio Cymru, ond ein treftadaeth naturiol, ein heconomi a'n diwylliant, ac yn arbennig yn y canolbarth a'r gorllewin, felly mae angen i ni wneud pethau'n iawn. Rwy'n falch o gefnogi argymhellion pwyllgor ETRA a chytuno ar yr egwyddorion cyffredinol ac i fynd ymlaen i Gyfnod 2, ond—ac mae yna 'ond'—mae'n rhaid i mi wneud tri phwynt, ac mae rhai ohonyn nhw wedi eu gwneud.
Mae'r Bil yn sefydlu rheoli tir cynaliadwy fel y fframwaith, a chyfeiriwyd at hynny, ond beth mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd? Os edrychwn ni ar, er enghraifft, yr unedau dofednod dwys yr ydw i wedi eu crybwyll lawer, lawer gwaith, a phryderon gwirioneddol Cynghrair Gweithwyr y Tir Cymru a Bwyd Cynaliadwy Trefyclo, a fydd yma'r wythnos nesaf, pa wahaniaeth fydd hyn yn ei wneud i'r llu hwnnw o unedau dofednod dwys, er enghraifft? Mae 150 yno'n barod, gan gartrefu tua 10 miliwn o ieir, ac rwy'n credu y dylen ni gael moratoriwm nes ein bod ni wedi edrych ar y difrod y mae hynny wedi'i wneud. Fe wnaeth Jenny Rathbone sôn am ymwrthedd gwrthficrobaidd, a phan fyddwch chi'n masgynhyrchu pethau fel cyw iâr, yna mae posibilrwydd gwirioneddol y bydd hynny'n treiddio i'r boblogaeth, ac rydym ni i gyd yn gwybod bod problemau byd-eang gyda gwrthfiotigau i bobl a'u heffeithiolrwydd. Mae Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru wedi rhybuddio bod bywyd yn Afon Gwy yn diflannu’n dawel. Felly, beth fydd y Bil hwn yn ei wneud i fynd i'r afael â'r pryderon amgylcheddol hynny, yr wyf newydd roi rhai enghreifftiau i chi ohonyn nhw?
Felly, yr ail bwynt yw cynlluniau pontio ar gyfer cymorth ariannol. O ystyried fy mhwynt cyntaf, yn eironig, mae ychydig fel yr iâr a'r wy. Mae Cyswllt Amgylchedd Cymru ac eraill yn dadlau na allwn ni bontio i'r cynllun cynaliadwyedd yn llwyddiannus heb ddyddiad terfyn ar daliadau sylfaenol. Mae'r undebau amaeth ac eraill, ar y llaw arall, yn dadlau na allwn ni bontio'n llwyddiannus i'r cynllun cynaliadwyedd heb sefydlogrwydd y cynlluniau taliadau sylfaenol. Felly, pa un yw hi? Rwy'n sylweddoli y byddwch yn ymgynghori ar hyn, ond a allwch chi ddatgelu eich ffordd o feddwl, Gweinidog? Ydych chi'n ystyried newid graddol, er enghraifft, fel yr awgrymir gan yr RSPB?
Ac yn drydydd, hoffwn godi mater mynediad i'r cyhoedd. Amlygodd y pandemig bwysigrwydd a hefyd cyfyngiadau mynediad y cyhoedd i fannau gwyrdd a glas, yn achos ein dyfrffyrdd a'n tiroedd glas. Felly, rwy'n llwyr gefnogi cynnig Cyswllt Amgylchedd Cymru i gryfhau'r darpariaethau hyn yn y Bil. 'Mae'r wlad hon yn eiddo i ti â mi', ebe'r gân, ond, ar hyn o bryd, mae gormod ohono'n anhygyrch neu'n waharddedig. O ran dyfarniad diweddar yr Uchel Lys ar wersylla gwyllt ar Dartmoor, dywedodd Plaid Lafur y DU y byddai'n pasio Deddf hawl i grwydro. Ydy hynny'n rhywbeth mae'r Gweinidog wedi myfyrio arno yng nghyd-destun datblygu'r Bil hwn i'r cyfnodau nesaf?