Part of the debate – Senedd Cymru am 6:04 pm ar 7 Chwefror 2023.
Diolch, Gweinidog, am eich holl waith yn hyn o beth. Rydym ni wedi clywed gan lawer sut y mae hwn mewn gwirionedd yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ail-lunio polisi amaethyddol yng Nghymru, yn dilyn ein hymadawiad o'r Undeb Ewropeaidd. Mae'r gwelliannau munud olaf i'r Bil hefyd yn cael eu croesawu, sef ychwanegu rhywfaint o fanylion ychwanegol ar sicrhau cynaliadwyedd busnesau fferm. Hoffwn godi rhai meysydd penodol o fy rhan fy hun. Un ohonyn nhw rydym ni wedi clywed amdano yw cynhyrchu bwyd. Yn fy sgyrsiau—ac rwy'n gwybod bod eraill wedi codi hyn hefyd—gyda ffermwyr, eu pryder mwyaf yw eu bod yn pryderu nad oes mecanwaith ar gyfer mesur cynhyrchu bwyd fel nwydd cyhoeddus. Er bod cynhyrchu bwyd yn cael ei amlygu yn y Bil fel nwydd cyhoeddus allweddol, nid oes modd yn y mecanwaith cyflenwi, sef y cynllun ffermio cynaliadwy, i ffermwyr gael eu gwobrwyo am y nwydd cyhoeddus hwnnw. Felly, yr hyn yr hoffwn wybod yw pa un a yw cynhyrchu bwyd wedi'i nodi fel nwydd cyhoeddus, yn enwedig pan fo pwys mawr ar ein diogeledd bwyd ein hunain, rydym ni wedi clywed amdano gan eraill yn y Siambr, yn enwedig mewn perthynas â'r gwrthdaro sy'n dod i'r amlwg yn Wcráin. A gaf i ofyn i'r Bil greu mecanwaith i ffermwyr gael eu gwobrwyo amdano? Ac mae'n rhaid i ddiogeledd bwyd fod wrth wraidd y Bil. Byddwn i'n awyddus i glywed mwy gan y Gweinidog am sut mae hi'n bwriadu sicrhau bod ffermwyr yn cael eu gwobrwyo.
Mater arall yr hoffwn ei godi yw un y safonau gofynnol cenedlaethol. Fy marn i yw bod angen llinell sylfaen reoleiddio gadarn ar y cynllun ffermio cynaliadwy cyn dechrau'r cynllun, y gall y cynllun fethu â chyflawni ei uchelgeisiau hebddi. Felly, roeddwn i'n pendroni, Gweinidog, a allech chi roi sicrwydd i ni yn y Siambr heddiw ynghylch a fydd y safonau gofynnol cenedlaethol yn barod mewn pryd ar gyfer dechrau'r cynllun ffermio cynaliadwy.
Yn olaf, ac rydym ni wedi clywed hyn gan Gadeirydd y pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig, yw ffermwyr tenant yn gallu manteisio ar y cynllun. Mae yna bryder mawr y bydd ffermwyr tenant, yn enwedig newydd-ddyfodiaid, yn cael eu llesteirio gan fethu o bosib â gwneud y newidiadau angenrheidiol i brydlesu'r tir er mwyn cael mynediad at y cynllun, er enghraifft cadw at yr amod gorchudd coed o 10 y cant. Gyda hynny mewn golwg, tybed a fyddech chi'n fodlon gweithio gyda mi ac eraill ar ba asesiad sydd wedi'i wneud i sicrhau bod ffermwyr tenant, yn enwedig newydd-ddyfodiaid, yn cael rhywfaint o drugaredd er mwyn gallu cael mynediad i'r cynllun. Mae cyfleoedd gwirioneddol i gynyddu newydd-ddyfodiaid, sef yr hyn sydd ei angen arnom ni mewn perthynas â'n heconomi wledig, i sicrhau bod gennym ni gynaliadwyedd hirdymor ac yn gwarchod ein ffermio yn y dyfodol. Edrychaf ymlaen at ddyfodol o weithio gyda'r Gweinidog ac eraill yn y Siambr hefyd. Diolch yn fawr iawn.