1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru ar 8 Chwefror 2023.
1. Pa gynlluniau sydd ar y gweill gan Lywodraeth Cymru i helpu pobl ifanc Arfon gyda chostau teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus? OQ59096
Diolch. Un o nodau 'Llwybr Newydd', strategaeth drafnidiaeth Cymru, yw lleihau cost teithio cynaliadwy i bawb yng Nghymru, gan gynnwys pobl ifanc. Rydym yn gweithio tuag at system drafnidiaeth hygyrch ledled y wlad ac mae gennym nifer o gynlluniau wedi’u hanelu at deithwyr iau.
Mae'n dda clywed bod yna gynlluniau ar y gweill, ac, wrth gwrs, mae angen eu hymestyn nhw a dod â chynlluniau newydd ymlaen hefyd. Ond yn rhannau gwledig fy etholaeth i, nid cost teithio ar fysus ydy'r unig broblem. Mae yna brinder bysus yn y lle cyntaf, gyda rhai cymunedau heb ffordd o deithio o gwbl ar adegau, gan nad oes yna ddim trenau, metro, llwybrau seiclo addas, nac ychwaith wasanaeth bysus ar rai adegau o'r dydd. Mae Yr Orsaf ym Mhenygroes yn datblygu prosiect i gefnogi trigolion, gan gynnwys pobl ifanc, sy'n wynebu rhwystrau oherwydd diffyg trafnidiaeth cyhoeddus yn nyffryn Nantlle, a hynny efo cefnogaeth partneriaeth trafnidiaeth gymunedol dyffryn Nantlle. Ydy trafnidiaeth gymunedol yn faes yr ydych chi fel Dirprwy Weinidog am ei weld yn datblygu i'r dyfodol, ac felly, os ydy hyn yn flaenoriaeth gennych chi, faint o gyllid sydd wedi ei glustnodi ar gyfer annog y math yma o drafnidiaeth yng nghyllideb ddrafft y Llywodraeth ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf?
Diolch. Nifer o bwyntiau yno. Rwy'n gyfarwydd â gwaith Partneriaeth Ogwen, ac wedi ymweld â rhai o'u cynlluniau—maent yn sefydliad rhagorol. Roeddwn yn arbennig o hoff o'r cynllun rydym wedi bod yn eu hariannu i ôl-osod beiciau, i osod batri arnynt, sydd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, ac yn enwedig mewn ardaloedd bryniog, yn beth ymarferol iawn y gallwn ei wneud i helpu pobl nad oes ganddynt fynediad hawdd at gar neu drafnidiaeth gyhoeddus. Gwyddom ein bod, ers cenedlaethau, wedi bod yn ffafrio buddsoddiad mewn cynlluniau ffyrdd, ar gyfer y bobl sydd â cheir, a'n bod, dros amser, wedi bod yn esgeuluso trafnidiaeth gyhoeddus, ac rydym wedi gweld dirywiad yn y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, rydym wedi gweld dirywiad yn nifer y llwybrau teithio, ac rydym wedi gweld prisiau'n codi. Felly, dyna un o'r rhesymau pam ein bod yn cyflwyno ein Bil bysiau, i ailgynllunio'r gwasanaeth, ac mae'n un o'r rhesymau pam y byddwn yn cyhoeddi'r adolygiad ffyrdd ddydd Mawrth nesaf, er mwyn symud adnoddau, dros amser, o gynlluniau sy'n seiliedig ar geir i gynlluniau ar gyfer pawb.
Yn y cyfamser, mae gennym heriau ariannol anodd iawn, ac rydym yn gweld cynlluniau bysiau yn cael eu diddymu, sy'n dangos y broblem sydd gennym gyda'r system sydd wedi'i phreifateiddio, gan nad oes trosolwg strategol dros hyn—mae'n cael ei wneud ar hap gan gwmnïau bysiau. Ac yna, mae gennym y broblem bellach, yn enwedig yn y Gymru wledig, lle mae cwmnïau bysiau'n ei chael hi'n anodd cynnal eu model busnes, ac mae cost ynni'n eu hatal rhag gallu darparu llwybrau teithio, ac nid ydynt yn tendro am wasanaethau newydd. Felly, mae ystod o heriau yn ein hwynebu, ond y broblem sylfaenol yw’r diffyg buddsoddiad sydd gennym. Oherwydd rydym wedi blaenoriaethu pethau eraill, gan gynnwys yn rhan o’r cytundeb cydweithio. Gallem fod wedi dewis blaenoriaethu trafnidiaeth gyhoeddus; fe ddewisom ni bethau eraill, ac mae'n rhaid inni wneud y gorau a allwn gyda'r hyn sydd gennym. Ond yn amlwg, fel rhan o'n hymdrech i newid dulliau teithio a'r targedau sero net, mae angen inni symud adnoddau i raddau mwy o lawer tuag at drafnidiaeth gyhoeddus.
Hoffwn adleisio’r sylwadau a godwyd gan yr Aelod dros Arfon, a chydnabod bod angen y ffocws pwysig hwn ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig ar gyfer ardaloedd gwledig, mewn ardaloedd fel Arfon ac ar draws gogledd Cymru—y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli, wrth gwrs. Ddirprwy Weinidog, rwy’n siŵr eich bod yn un o ddarllenwyr brwd maniffesto’r Ceidwadwyr Cymreig, yn enwedig yr un ar gyfer etholiadau’r Senedd yn 2021. Ynddo, roeddem ni fel y Ceidwadwyr yn galw am deithiau bws am ddim a theithiau trên am bris gostyngol i bobl ifanc 16 i 24 oed, i helpu ein pobl ifanc i gael mynediad at addysg, hyfforddiant a chyflogaeth. Wrth gwrs, gallai hyn sicrhau'r newid rydych chi a minnau mor awyddus i’w weld yn ein dulliau teithio, gan gefnogi ein hamgylchedd ar yr un pryd, sydd mor bwysig. Felly, yng ngoleuni hyn, Weinidog, pa ystyriaeth rydych chi a Llywodraeth Cymru wedi’i rhoi i’r math hwn o syniad, i sicrhau teithio am ddim ar fysiau i’n pobl ifanc, fel y gallwn weld newid mewn dulliau teithio a chefnogi ein hamgylchedd hefyd? Diolch yn fawr iawn.
Wel, nid oes unrhyw amheuaeth y byddai gennym fwy o ddefnydd pe bai gennym brisiau is. Mae cynlluniau ar waith ledled y byd, gan gynnwys y defnydd o fysiau am ddim yn Normandi a mannau eraill, a chynlluniau bysiau am ddim yng Nghymru, yng Nghaerdydd ac Abertawe a Chasnewydd, am gyfnodau byr, sydd wedi dangos cynnydd mewn defnydd. Felly, pan fydd prisiau’n gostwng, gwyddom fod pobl yn fwy tebygol o’u defnyddio. Nid oes prinder cyfleoedd a syniadau i gynyddu defnydd a lleihau prisiau tocynnau, a chymell pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Yr her bob amser yw'r adnoddau. Felly, nid wyf yn siŵr sut mae’r Ceidwadwyr yn bwriadu ariannu’r cynllun a oedd ganddynt yn eu maniffesto, ond nid wyf yn ymwybodol o unrhyw opsiynau hawdd i wneud hynny.
Mae gennym gynnig ar fysiau lle mae pobl rhwng 16 a 21 oed yn cael traean oddi ar docyn bws oedolyn, ac rydym wedi bod yn gwneud llawer o waith, fel rhan o’n hymrwymiad i drefn brisiau siwrneiau decach, ar fodelu’r hyn y gallem ei gyflawni pe bai gennym docynnau bysiau llawer rhatach. Ac mae’r holl ffigurau'n galonogol iawn; yr adnoddau yw'r her.