1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru ar 8 Chwefror 2023.
2. Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru'n ei darparu ar gyfer cymunedau arfordirol sy'n wynebu bygythiad o lifogydd? OQ59079
Diolch, Janet. Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £293 miliwn mewn lleihau perygl llifogydd i gymunedau arfordirol ledled Cymru drwy ein rhaglen rheoli risgiau arfordirol. Bydd hyn yn lleihau’r perygl o lifogydd i dros 15,000 eiddo, ac mae’n cynnwys, er enghraifft, mwy na £19 miliwn o fuddsoddiad yn Aberconwy. Mae map rhyngweithiol yn dangos ein buddsoddiad wedi'i gyhoeddi ar-lein.
Diolch, Weinidog. Rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol, yn 2014, fod oddeutu 50,000 tunnell o graig chwarel ffres a budr wedi cael ei ddympio heb unrhyw rybudd ar ein traeth tywodlyd hyfryd, traeth y gogledd yn Llandudno. Ar y pryd, fe'i gelwid yn 'raean'. Roedd y dref yn gandryll, gyda thrigolion, ymwelwyr a pherchnogion busnesau yn dal yn flin hyd heddiw. Gallaf gofio'r ewyn llaethog, gwyn yn cael ei olchi i'r lan am oddeutu tair wythnos, a'i fod yn cael ei alw ar y pryd yn 'raean glân ac anadweithiol.'
Nawr, yn 2023—wel, cyn hynny, a dweud y gwir—rydym bellach yn ymwybodol o'r nifer o opsiynau a gynigiwyd i chi i gyflwyno cynllun amddiffynfeydd llifogydd o'r môr newydd. Un o’r opsiynau yw gweithredu cynllun a fyddai’n ailgyflenwi tywod, a chefnogwyd cam 1 hyd yn oed. Ni allaf orbwysleisio fy siom aruthrol na fydd y cynllun hwn yn cael ei gefnogi mwyach, gan eich bod yn teimlo bod y gost yn ormod o gymharu â manteision esthetig adfer tywod. Llandudno yw brenhines cyrchfannau Cymru, a phrif drysor—
Rwy'n mynd i orfod galw arnoch i ofyn eich cwestiwn nawr, gan fy mod ar fin gofyn ichi ofyn eich cwestiynau fel llefarydd, ac mae tri o'r rheini. Felly, a wnewch chi ofyn eich cwestiwn?
Iawn. Pa gamau y gallwch eu cymryd, Weinidog? Sut rydym yn gwneud cynnydd ar hyn? Pa gamau y byddwch yn eu cymryd i sicrhau bod gennym yr amddiffynfeydd môr cywir sydd eu hangen arnom, ond y gallwn hefyd, ar ryw gam, weld ein traeth tywodlyd yn cael ei adfer yn Llandudno? Diolch.
Ie, diolch, Janet. Felly, yn benodol, mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu cyllid grant yn ddiweddar i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ddatblygu achos busnes llawn ar gyfer Llandudno, yn seiliedig ar gynnal a gwella’r amddiffynfa bresennol o goblau ar draeth y gogledd. Nid yw'r opsiwn i ailgyflenwi tywod yn darparu unrhyw fudd ychwanegol o ran llifogydd, a byddai'n costio llawer mwy i'r rhaglen rheoli perygl arfordirol, a dyna'r broblem. Felly, er fy mod yn deall yr hyn a ddywedwch am y traeth tywodlyd yn llwyr, diben y rhaglen rheoli risg arfordirol yw rheoli risg arfordirol; nid yw'n ymwneud ag atyniadau twristiaeth a gwerth esthetig arall. Nid wyf yn gwadu gwerth hynny; rwy'n dweud nad dyna yw diben y rhaglen.
Felly, os yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn awyddus i ailgyflenwi tywod ar draeth y gogledd yn Llandudno, mae gwir angen iddynt chwilio am ffynonellau eraill o gyllid. Mae ffynonellau eraill o gyllid ar gael, ond yn bendifaddau, ni allaf gymryd rhaglen rheoli risg arfordirol sydd wedi’i chynllunio’n benodol i amddiffyn lleoedd rhag llifogydd a’i defnyddio at ddiben hollol wahanol. Felly, er fy mod yn cydymdeimlo â'r hyn a ddywedwch, nid hon yw'r rhaglen gywir ar gyfer hynny. A gallwch ddweud o'r swm o arian rydym wedi'i fuddsoddi yn arfordir Cymru ein bod o ddifrif yn ceisio amddiffyn cymaint o eiddo â phosibl rhag llifogydd. Yn amlwg, rydym yn ceisio gwneud hynny yn y ffordd fwyaf amgylcheddol a dymunol yn esthetig ag y gallwn, ond yn y pen draw, mae'n ymwneud â faint o eiddo rydym yn eu hamddiffyn. Felly, rwy’n siŵr y byddwch yn gallu gweithio gyda’r cyngor i gytuno ar opsiwn gwell, ond nid drwy’r model ariannu hwn.