Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 8 Chwefror 2023.
Diolch yn fawr iawn i'r Dirprwy Weinidog am yr ateb hynny, a'r geiriau cynnes iawn sydd wedi cael eu rhoi yn cefnogi cael darpariaeth yn yr ardaloedd gwledig, ond ymhellach i hynny, mae wedi dod i fy sylw i fod y cynllun bus emergency scheme, a gafodd ei gyflwyno yn ystod COVID, am gael ei arallgyfeirio er mwyn digolledi anghenion eraill o fewn y Llywodraeth, ac felly bod y pres yma'n dirwyn i ben yn ddisymwth iawn.
Mae sawl darparwr bysus wedi cysylltu efo Aelodau'r meinciau yma dros y dyddiau diwethaf yn sôn fod y cynllun BES yma, a oedd i fod i ymestyn am flwyddyn arall, wedi cael ei ollwng ar ddiwedd y flwyddyn ariannol yma. Mae hyn, wrth gwrs, wedi chwalu cynlluniau bysus, y cwmnïau, ac yn golygu nad ydyn nhw'n medru rhoi notis angenrheidiol ar gyfer dirwyn llwybr penodol i ben. Darparwyr lleol a chymharol fach ydy'r rhan fwyaf ohonyn nhw, sydd heb gronfa fawr o arian i'w galluogi i ddigolledi rhai o'r llwybrau yma. O ganlyniad, maen nhw'n ein rhybuddio ni y bydd hyn yn golygu bod nifer o lwybrau yn mynd i ddod i ben, a hwyrach rhai busnesau yn dirwyn i ben. Mae'r darparwyr bysus hynny'n tiwnio i mewn heddiw i'r sesiwn yma ac yn gwrando i weld os medrith y Dirprwy Weinidog roi sicrwydd iddyn nhw y bydd y gyllideb a'r grant yn parhau i ariannu'r llwybrau bysus yma. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog ein sicrhau na fydd yr ariannu i wasanaethau bysus Cymru yn ei chyfanrwydd, sydd yn golygu'r bus emergency scheme, yn cael ei dorri, ac y bydd yn parhau yn y flwyddyn ariannol nesaf?