Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 8 Chwefror 2023.
Diolch yn fawr iawn am y set bwysig honno o gwestiynau. Mewn gwirionedd, dangosodd y data a gyhoeddwyd gan gomisiwn Burns ar gyfer gogledd Cymru, hyd yn oed mewn ardaloedd gwledig, fod y rhan fwyaf o deithiau’n gymharol fyr, ac mewn egwyddor, y gallai trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol gymryd lle llawer ohonynt pe bai’r gwasanaethau ar gael. Rwyf wedi bod yn cynnal cyfres o gyfarfodydd bwrdd crwn gydag awdurdodau lleol ac eraill mewn gwahanol rannau o Gymru, a’r hyn sy’n drawiadol yw, pan fyddwch yn mapio ardaloedd gwledig, fod ardaloedd gwledig i'w cael ym mhob sir yng Nghymru. Nid yw'n fater sy'n ymwneud â'r canolbarth yn unig, neu'n fater sy'n ymwneud â'r gogledd-orllewin; mae gwledigrwydd ym mhobman, ac mae mater hygyrchedd a dewis yn her wirioneddol ledled y wlad.
Gwyddom o wledydd eraill, lle gwneir dewisiadau gwahanol, y gallwch gael system drafnidiaeth gyhoeddus hyfyw mewn ardaloedd gwledig iawn. Os edrychwch ar Sweden, yr Almaen neu'r Swistir, mae gan hyd yn oed y pentrefi bach wasanaeth bws bob awr. Felly, nid oes unrhyw reswm, mewn egwyddor, pam na allem wneud cynnig llawer gwell ar gyfer ardaloedd gwledig. Mae'n gwestiwn o adnoddau a dewisiadau gwleidyddol. Nawr, os ydym yn mynd i gyflawni'r targedau newid hinsawdd y mae pob un ohonom wedi ymrwymo iddynt, yn amlwg, mae angen inni newid dulliau teithio, pobl yn newid o ddefnyddio ceir i ddefnyddio trafnidiaeth gynaliadwy ym mhob rhan o Gymru. Un o’r pethau rydym yn canolbwyntio arnynt yw dweud, ‘Sut rydym yn sicrhau mai'r hyn y gwyddom yw’r peth iawn i’w wneud yw'r peth hawsaf i’w wneud?’, gan mai natur ddynol yw gwneud y peth hawsaf, ac ar hyn o bryd, mewn sawl rhan o Gymru, nid yw'n hawdd, neu mewn llawer o gymunedau, nid yw'n bosibl dal bws ar ôl 5 neu 6 o'r gloch y nos. Felly, gwyddom nad ydym yn dechrau o le gwych, a gwyddom fod hyn yn mynd i gymryd peth amser.
Fel rhan o’r cytundeb cydweithio, rydym yn edrych ar goridorau trafnidiaeth yn y gorllewin. Mae’r Aelod dynodedig, Siân Gwenllian, a minnau wedi cytuno ar raglen waith gyda Trafnidiaeth Cymru i asesu’r posibiliadau ar gyfer coridorau bysiau, yn bennaf, yn y gorllewin, ond gan edrych hefyd ar sut, o ran cynllunio, y gallwn gadw’r hen reilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin. Ond ar ryw adeg, bydd angen inni ddewis ble rydym yn rhoi'r buddsoddiad prin sydd gennym a ble mae'r flaenoriaeth. Credaf mai dyna yw ein cyfyng-gyngor, oherwydd o safbwynt carbon, rydym bob amser yn mynd i fod yn awyddus i gyflawni’r gostyngiadau cyflymaf a’r gostyngiadau mwyaf mewn carbon. Yn amlwg, bydd buddsoddiadau mewn ardaloedd gwledig yn ddrytach a byddant yn cael llai o effaith o ran carbon, a bydd angen inni fynd i'r afael â'r tensiwn hwnnw. Ond rwy'n glir iawn nad ydym yn mynd i allu llwyddo yn ein gweledigaeth gyffredinol oni bai ein bod yn mynd i'r afael â'r broblem wledig.