Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 8 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 1:48, 8 Chwefror 2023

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi am gychwyn drwy gydnabod bod yna lot o waith yn mynd ymlaen ar hyn o bryd efo gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus Cymru. Roedd adroddiad diweddar Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru, er enghraifft, yn ddifyr iawn, efo un ystadegyn arbennig o ddifyr a oedd yn dweud bod dwy ran o dair o siwrneiau pobl y gogledd yn 15 km neu lai, ond roedd y data yna wedi pwyso’n sylweddol i'r ardaloedd mwyaf poblog yn amlwg.

Mae nifer o gynlluniau metro ar y gweill hefyd, ac os edrychwn ni unwaith eto ar y gogledd, mae yna sôn sylweddol yno am ddatblygu linciau trên o Landudno a Wrecsam i Lerpwl a Manceinion. Mae metro bae Abertawe yng ngorllewin Cymru yn sôn am y canolfannau trefol unwaith eto. Ond yr hyn sydd yn nodedig yn hyn oll ydy absenoldeb llwyr cynlluniau ar gyfer y Gymru wledig. Ble mae Ceredigion, Powys, y rhan fwyaf o Wynedd a’r berfeddwlad yn y cynlluniau metro? Felly, beth ydy uchelgais y Llywodraeth er mwyn sicrhau bod trigolion y Gymru wledig yn medru cael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus?