Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 8 Chwefror 2023.
Diolch, Weinidog. Cyfarfûm yn ddiweddar a chefais gyflwyniad gan ddatblygwyr fferm ynni solar arfaethedig yng Nghraig y Perthi ger gorsaf ynni Aber-wysg. Mae ynni solar, fel y gwyddoch yn well nag unrhyw un rwy’n siŵr, yn un o’r ffyrdd rhataf o gynhyrchu ynni ar hyn o bryd, a chyda chynlluniau fel fferm solar Craig y Perthi ar y gweill, mae gwir botensial gan ynni solar nid yn unig i fynd i’r afael â'n gofynion ynni, ond hefyd i ddarparu cymorth i bobl sy'n dioddef gyda biliau ynni uchel ar hyn o bryd. Felly, Weinidog, a allwch roi gwybod i ni yma yn y Siambr heddiw a thu hwnt pa gynnydd sy’n cael ei wneud, yn benodol, ar gynyddu nifer y prosiectau solar ffotofoltäig yma yng Nghymru? Diolch.