Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 8 Chwefror 2023.
Diolch. Roeddwn yn falch o gyfarfod â Ken Skates ddoe i drafod ei bryder am ansawdd aer o amgylch y ffyrdd lleol yn ei etholaeth a goblygiadau'r hyn a allai ddeillio o'r adolygiad ffyrdd. Byddwn yn cyhoeddi hwnnw ddydd Mawrth nesaf, y pedwerydd ar ddeg, ynghyd â'r cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth a pholisi ffyrdd newydd yn y dyfodol. Bydd Ken Skates yn cofio pan gyhoeddodd ef a minnau strategaeth trafnidiaeth Cymru ddwy flynedd yn ôl, ein bod wedi ymrwymo i roi mynd i'r afael â newid hinsawdd wrth galon ein polisi trafnidiaeth, ac mae angen bwrw ymlaen â hynny nawr. Mae hynny'n aml yn anghyfforddus ac yn golygu gwneud pethau'n wahanol, ac mae'n gwrthdaro weithiau gyda disgwyliadau lleol sydd wedi datblygu dros nifer o flynyddoedd. Ond mae gennym bolisi cynllunio blaengar bellach, 'Dyfodol Cymru', mae gennym 'Bolisi Cynllunio Cymru', mae gennym Gymru Sero Net ac mae gennym strategaeth trafnidiaeth Cymru oll yn dweud wrthym fod angen newid sylfaenol, a dyna y bwriadwn ei wneud drwy gyhoeddi'r adolygiad.
Yn amlwg, mae yna broblemau trafnidiaeth yn bodoli, ac fe amlygodd rai yn ei etholaeth ei hun. Roedd y sefyllfa yn Wrecsam yn anffodus, oherwydd bod peth gwaith cynnal a chadw wedi gor-redeg ac i fod wedi ei gwblhau dros nos, ond fe lusgodd ymlaen. Bydd yna bob amser ddigwyddiadau o'r fath sy'n mynd i achosi anghyfleustra ac oedi ni waeth faint o gapasiti sydd gennych ar y rhwydwaith priffyrdd. Mae angen inni adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gwydn yn sicr, ond un sy'n wydn nid yn unig yn erbyn pwysau tymor byr, ond hefyd yn erbyn y pwysau yn y tymor canolig i hirdymor a ddaw yn sgil yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur. Ond byddwn yn parhau i weithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol a chyda'r Aelodau i wneud yn siŵr ein bod yn datblygu cynlluniau sy'n helpu pobl leol ac yn ein rhoi mewn sefyllfa i wrthsefyll yr heriau a wynebwn.