Adolygiad Ffyrdd

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 8 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:19, 8 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Weinidog, mae hynny'n gadarnhaol iawn ac yn dda i'w glywed. Fe fyddwch wedi gweld yn y 24 awr ddiwethaf, wrth gwrs, yr anrhefn sydd wedi'i achosi ar draws y rhwydwaith ffyrdd lleol yn Wrecsam a'r cyffiniau, pan gaiff yr A483 ei chau neu pan fydd llai o lonydd, ac mae'n dangos sut mae llai o gapasiti ar y cefnffyrdd yn effeithio ar faint o draffig sy'n teithio drwy drefi a phentrefi cyfagos lle ceir ffyrdd lleol. Felly, a wnewch chi weithio gydag awdurdodau lleol i asesu effaith peidio â bwrw ymlaen â gwelliannau i gefnffyrdd, o ran maint traffig, allyriadau a diogelwch, ffyrdd cyfagos a chymunedau lleol, ac a wnewch chi ymrwymo i gyhoeddi asesiadau effaith o'r fath?