Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 8 Chwefror 2023.
Nid oeddwn yn hollol siŵr ble mae'r ffin. Mae'n brosiect rhagorol, ac un o'r pethau y buom yn eu trafod pan oeddem yno—cefais y fraint o'i agor, felly mae bellach yn pweru'r ysbyty, gan helpu gyda'u hôl troed carbon a'u hynni—ond un o'r pethau mawr amdano yw bod ganddo brosiect perthi ac ymylon o'i amgylch ar gyfer coed, a phlannwyd gweirglodd fioamrywiol oddi tano. Beth sydd beidio â'i hoffi?
Felly, yr ateb byr yw, 'Po fwyaf o bethau y gall eu cyflwyno ar yr un pryd a'r gofod y gall ei ddefnyddio na ellir ei ddefnyddio at ddefnydd buddiol arall, gorau oll', ac yna, gallwn sicrhau caniatâd ar gyfer y prosiectau.