Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 8 Chwefror 2023.
Weinidog, un o'r ffyrdd gorau o gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yw annog ei defnydd mewn lleoliad anffurfiol. Mae gweithio gyda sefydliadau fel y clwb Ffermwyr Ifanc ledled sir Gaerfyrddin yn gallu bod yn rhan allweddol o’r gwaith o sicrhau ein bod yn cyrraedd ein targed Cymraeg 2050. Yn ddiweddar, rwyf i wedi codi gyda’r Gweinidog materion gwledig y ffaith mai’r unig gymorth ariannol y mae’r Ffermwyr Ifanc yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru yw drwy’r grant iaith. Er bod hyn i’w groesawu, rwy’n credu y gellir dal gwneud mwy i gefnogi grwpiau cymunedol eraill i hyrwyddo a defnyddio’r Gymraeg. Felly, sut ydych chi’n gweithio gyda’ch cydweithiwr yn y Cabinet i sicrhau bod cymorth ariannol i sefydliadau fel y Ffermwyr Ifanc a grwpiau eraill yn gallu cefnogi eu llwyddiant a hyrwyddo’r Gymraeg ar yr un pryd? Diolch.