2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru ar 8 Chwefror 2023.
1. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r gwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir Gâr yn ôl data'r cyfrifiad diwethaf? OQ59088
Mae cynyddu addysg cyfrwng Cymraeg a gwella deilliannau iaith ein holl ddisgyblion yn ogystal â deall yn well beth sydd y tu ôl i’r cwymp pellach yn y cymunedau Cymraeg yn flaenoriaeth. Mae defnydd iaith yn ganolog i hyn. Byddwn yn dadansoddi ymhellach pan ddaw rhagor o ddata ar gael.
Bydd y Gweinidog wedi gweld y ffigurau, wrth gwrs, ac maen nhw yn peri gofid, onid ŷn nhw? Hynny yw, mae'n amrywio o gwymp o ychydig o dan 3 y cant ymhlith y rhai ieuengaf, 3 y cant wedi hynny rhwng 16 a 64, a chwymp o bron i 9 y cant yn y ganran dros 65. Mae gwahanol ffactorau, efallai, yn gyrru'r gwahanol gostyngiadau yma, ond yn sicr yn creu darlun sydd yn peri pryder. Dwi'n gwybod bod y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn mynd i ddadansoddi'r cyfrifiad ar draws y cymunedau Cymraeg ac yn mynd i ddod lan ag argymhellion o ran pa ardaloedd dylid eu pennu fel ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol, ond ydy'r Gweinidog yn gallu dweud mwy nawr ynglŷn â'r mathau o ymyriadau dŷch chi'n meddwl fel Llywodraeth fyddai'n addas ar gyfer y sefyllfa dŷn ni'n ei hwynebu yn sir Gâr? Tra'n bod ni'n aros am adroddiad y comisiwn, fyddech chi'n fodlon cwrdd gyda fi ac aelodau etholedig eraill y cyngor sir a rhanddeiliaid yn sir Gâr i drafod yr hyn y gellir ei wneud yn syth i fynd i'r afael gyda'r heriau dŷn ni'n eu hwynebu?
Diolch i Adam Price am y cwestiynau pwysig hynny. Gwnes i gyfarfod gyda chyfarwyddwr addysg ac arweinydd cyngor sir Gâr yr wythnos ddiwethaf i drafod eu cynllun strategol nhw ac roedd neges y cyngor sir yn glir, rwy'n credu, eu bod nhw'n gweld eu hunain fod angen gweithredu yn sgil hynny mewn ffordd sydd yn bwrpasol ac heb oedi. Mae gyda ni ffydd y byddan nhw'n gwneud hynny, wrth gwrs. Mae cabinet y sir, rwy'n credu, yn unfrydol yn cefnogi'r cynlluniau sydd gyda nhw, sydd yn beth i'w groesawu.
Fel gwnaeth yr Aelod ddweud, mae'r darlun yn un cymhleth yn yr ystyr bod cohorts gwahanol o ran oedran wedi cael eu 'impact-o' mewn ffyrdd gwahanol. Mae elfen ddaearyddol hefyd, gydag efallai consyrn penodol yng nghwm Aman, er enghraifft. Felly, mae'n rhaid deall y data yn ei gyd-destun. Mae elfennau positif, wrth gwrs, hefyd yn yr hyn mae'r sir yn ei wneud, yn benodol o ran y buddsoddiad mewn trochi a'r cynlluniau uchelgeisiol sydd gyda nhw i symud 10 ysgol ar hyd y continwwm ieithyddol i ddarparu mwy a mwy trwy gyfrwng y Gymraeg. Byddwn i'n barod iawn i gwrdd gydag ef ac eraill. Roeddwn i'n bwriadu, beth bynnag, cael cyfres o gyfarfodydd rhanbarthol mewn gwahanol rannau o Gymru i drafod gyda rhanddeiliaid lleol, a byddai'n addas iawn gwneud hynny in Sir Gâr, dwi'n credu.
Weinidog, un o'r ffyrdd gorau o gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yw annog ei defnydd mewn lleoliad anffurfiol. Mae gweithio gyda sefydliadau fel y clwb Ffermwyr Ifanc ledled sir Gaerfyrddin yn gallu bod yn rhan allweddol o’r gwaith o sicrhau ein bod yn cyrraedd ein targed Cymraeg 2050. Yn ddiweddar, rwyf i wedi codi gyda’r Gweinidog materion gwledig y ffaith mai’r unig gymorth ariannol y mae’r Ffermwyr Ifanc yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru yw drwy’r grant iaith. Er bod hyn i’w groesawu, rwy’n credu y gellir dal gwneud mwy i gefnogi grwpiau cymunedol eraill i hyrwyddo a defnyddio’r Gymraeg. Felly, sut ydych chi’n gweithio gyda’ch cydweithiwr yn y Cabinet i sicrhau bod cymorth ariannol i sefydliadau fel y Ffermwyr Ifanc a grwpiau eraill yn gallu cefnogi eu llwyddiant a hyrwyddo’r Gymraeg ar yr un pryd? Diolch.
Diolch i Sam Kurtz am y cwestiynau hynny. Mae cyfraniad mudiad y clybiau ffermwyr ifanc i waith ieuenctid yn ein cymunedau gwledig ni yn amhrisiadwy. Rwy’n falch o’r cyfraniad ariannol o bron £125,000 rŷn ni’n ei roi i ffederasiwn Cymru a’r ffederasiynau sirol er mwyn sicrhau bod eu gwaith pwysig nhw yn parhau. Mae brwdfrydedd ac ymroddiad pobl ifanc ym myd amaeth Cymru a chymunedau gwledig ehangach yn ysbrydoledig.
Rŷm ni eisoes, wrth gwrs, yn darparu ffynhonnell o arian ar gyfer cyrff mewn amryw sectorau. Mi wnes i ddatgan cronfa yr wythnos ddiwethaf, neu'r wythnos gynt, sy’n cynyddu’r rheini eleni yn sgil y pwysau o ran costau byw a chwyddiant ar gyllidebau amryw o’r rheini. Fel y mae’r Aelod yn gwybod, rŷm ni wrthi ar hyn o bryd yn arolygu ein cynllun grant er mwyn sicrhau bod hynny’n cyd-fynd gyda chynllun Cymraeg 2050. Rwy’n gwybod y bydd ef yn croesawu hynny hefyd.