Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 8 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 2:38, 8 Chwefror 2023

Diolch, Llywydd. Weinidog, ddoe, yn ystod y ddadl ar y gyllideb ddrafft, gofynnais i'r Gweinidog cyllid ystyried goblygiadau'r gyllideb o ran y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg, ac, yn benodol, os oedd cynlluniau i gefnogi mynediad am ddim i deuluoedd lleol neu deuluoedd incwm isel i Eisteddfod yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol eleni. Y llynedd, fe wnaethoch fuddsoddi mewn mynediad am ddim i bawb i Eisteddfod yr Urdd ar flwyddyn canmlwyddiant y mudiad, a 15,000 o docynnau am ddim ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu'r ddau gynllun yn llwyddiant, gyda'r Urdd yn nodi bod cynnydd o 31 y cant wedi bod mewn niferoedd yn mynychu, gydag 20 y cant o ymwelwyr yn dod o 40 y cant o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn sir Ddinbych. Oes bwriad gennych barhau gyda buddsoddiad o'r fath, er mwyn sicrhau bod teuluoedd lleol ar incwm isel yn parhau i fedru mwynhau'r hyn sydd gan ddwy o'n gwyliau cynhenid Cymreig ni i'w cynnig, a manteisio ar yr hyn sydd ganddynt i'w gynnig fel rhan o'r targed i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg?