2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 8 Chwefror 2023.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones.
Diolch, Lywydd. Weinidog, ers 2017, mae 40 y cant o staff cymorth ysgolion sydd wedi'u cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg wedi gadael. Mae'n amlwg fod problem enfawr gyda chadw staff wrth galon y byd addysg yng Nghymru, sy'n achosi i'r diwydiant golli staff profiadol ar y raddfa hon. Oherwydd hyn, mae ysgolion sy'n brin o arian yn gorfod rhoi hyd yn oed mwy o straen ar eu cyllidebau, ac yn gorfod recriwtio a hyfforddi mwy o staff. Pam eich bod chi wedi caniatáu i'r broblem hon barhau am bron i chwe blynedd bellach, a phryd fydd eich Llywodraeth yn datrys yr argyfwng cadw staff, sydd wedi datblygu i raddau helaeth o dan eich gwyliadwriaeth chi?
Wel, rwy'n cydnabod bod angen inni wneud popeth yn ein gallu i gefnogi staff cymorth o fewn y system, sy'n darparu gwasanaeth pwysig iawn i'n pobl ifanc ac sy'n anhepgor yn ein hysgolion. Nid yw cwestiwn yr Aelod yn cydnabod y gwaith a wneuthum ers dod yn Weinidog mewn perthynas â'r mater hwn. Fe fydd yn cofio, oherwydd fe wneuthum ddatganiad yn y Siambr hon y llynedd, fy mod wedi dechrau rhaglen waith i gefnogi'r union bobl y mae hi'n cyfeirio atynt yn ei chwestiwn. Mae hynny'n cynnwys proses waith a arweinir gan gynorthwywyr addysgu ar safoni rolau a defnyddio cynorthwywyr addysgu yn gyson ar draws awdurdodau lleol ac ysgolion yng Nghymru. Mae hefyd wedi'i gyplysu â hawl, am y tro cyntaf, i raglen ddysgu proffesiynol i gynorthwywyr dysgu. Bydd y grant dysgu proffesiynol yn cael ei bwysoli bellach i adlewyrchu nifer y cynorthwywyr addysgu mewn ysgolion. Mae'r rheini i gyd yn ddatblygiadau newydd sydd wedi dod i rym yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Rwy'n cydnabod ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gwerthfawrogi'r rôl y mae cynorthwywyr addysgu a staff cymorth eraill yn ei chwarae yn ein hysgolion, ac rwy'n sicr yn gwneud hynny.
Yn bendant, Weinidog—mae'n rôl amhrisiadwy, a gwell hwyr na hwyrach, mae'n debyg. Ond nid argyfwng gyda staff cymorth yn unig yw hi. O fy sgyrsiau gyda Chyngor y Gweithlu Addysg a Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a'r Colegau, mae'n gwbl amlwg fod gennym argyfwng recriwtio a denu athrawon pynciau craidd. Y llynedd, ni wnaethoch gyrraedd 50 y cant o'ch targed eich hun ar gyfer athrawon mathemateg, ac ychydig o dan 30 y cant ar gyfer athrawon ffiseg a chemeg. Ni allwch ddenu athrawon craidd cyfrwng Cymraeg hyd yn oed, sy'n angenrheidiol i gyflwyno addysg cyfrwng Cymraeg. Nid yw pethau'n gweithio. Ers 2011, rydym wedi gweld gostyngiad o 10 y cant yn niferoedd athrawon wrth iddynt adael y proffesiwn yn eu heidiau. Mae recriwtio a chadw athrawon o safon uchel yn hanfodol er mwyn sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yng Nghymru yn cael yr addysg orau y maent yn ei haeddu. O'r ffigurau hyn, mae'n gwbl amlwg eich bod yn methu'n enbyd yn eich amcanion ac mae hynny'n peri pryder. Weinidog, pam eich bod chi a'ch Llywodraeth wedi caniatáu i'r broblem barhaus hon droi'n argyfwng?
Os yw'r Aelod eisiau gwybod sut olwg sydd ar broffesiwn addysgu digalon nad yw'n teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi gan ei Lywodraeth, nid oes ond angen iddi edrych dros y ffin ar yr hyn sy'n digwydd yn Lloegr, sy'n drychinebus o ran cadw a recriwtio yn gyffredinol. Felly, dyna sut olwg sydd ar bolisi addysg Ceidwadol. Gallwn ei weld yn digwydd o flaen ein llygaid.
Yr hyn sydd gennym yng Nghymru—[Torri ar draws.] Mae'r Aelod yn mwmian; rwy'n hapus i ateb y cwestiwn. Yr hyn a wnawn yng Nghymru, fel y bydd hi'n gwybod—rydym wedi trafod y mater yn y Siambr lawer gwaith, a gwn fod ganddi farn gref ar hyn, os ychydig yn anwybodus weithiau—yw bod gennym gynllun 10 mlynedd i recriwtio athrawon cyfrwng Cymraeg, gan gydweithio â'n partneriaid ar draws y system mewn ffordd sy'n greadigol a chan roi cynnig ar ddulliau newydd i wella niferoedd yr athrawon cyfrwng Cymraeg sy'n dod i mewn i'n proffesiwn.
Mae gennym gymelliadau ariannol i annog y rheini mewn pynciau anodd, lle mae recriwtio'n her, nid yn unig yng Nghymru, nid yn unig yn y DU, ond yn rhyngwladol. Felly, mae rhai o'r rheini ym maes mathemateg, mae rhai ohonynt yn rhai o'r pynciau gwyddonol. Mae gennym drefniadau ar waith i ddenu pobl ifanc i'r proffesiwn i addysgu yn y meysydd hynny, oherwydd rwyf eisiau sicrhau, yn y meysydd rwy'n cytuno â hi sy'n feysydd allweddol, fod gennym gyflenwad llawn o staff i allu sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael yr addysg y maent ei hangen.
Weinidog, mae addysg wedi ei ddatganoli. Rydych yn pedlera'r un hen esgusodion pan fo gennych ysgogiadau ar gael i chi. Er bod nodau'r porth canolog newydd i athrawon cyflenwi a awgrymir yn gywir—ac rwy'n rhoi clod i chi am hynny—mae hyd yn oed Cyngor y Gweithlu Addysg wedi dweud nad yw'n mynd i weithio'n ymarferol o ystyried nad oes cymhelliad nac ysgogiad i wneud iddynt symud i'r system ganolog, oherwydd nad ydynt yn gystadleuol yn ariannol o gymharu â chynigion y sector preifat, ac mae'n dibynnu'n llwyr ar awdurdodau lleol a staff yn ymrwymo iddo; nid yw'n orfodol. Nid yw ond yn ateb tymor byr arall, onid yw, na fydd yn datrys y broblem ddifrifol rydych wedi'i chreu.
A bod yn hollol onest, mae'n drewi o 25 mlynedd o hen Lywodraeth flinedig sydd wedi rhedeg allan o syniadau ac sy'n gweithredu'n ddall gan obeithio am y gorau. Nid ydych yn denu athrawon pynciau craidd. Nid ydych yn cadw staff cymorth, ac ni all eich plaid, plaid yr undebau, atal streiciau addysg hyd yn oed gyda'r ysgogiadau sydd ar gael i chi.
Weinidog, rwyf eisiau gwybod beth yn union rydych yn ei wneud i ddatrys yr argyfwng staff addysgu a grëwyd gennych.
Wel, nid wyf yn siŵr a wrandawodd yr Aelod ar y ddau ateb blaenorol a roddais, ond rwyf wedi amlinellu'n fanwl iawn beth rydym yn ei wneud. Mae'r cwestiwn o gadw a recriwtio yn her ym mhob rhan o'r byd. Mae'r hyn rydym yn ei wneud yng Nghymru yn benodol i'n hanghenion ni yng Nghymru. Rwyf wedi amlinellu rhestr o faterion iddi ac mae'n amlwg ei bod wedi diystyru'r rhestr honno yn ei thrydydd cwestiwn. Yr hyn rydym yn ei wneud yng Nghymru yw sicrhau bod ein proffesiwn dysgu yn cydnabod eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.
Os ydym eisiau gweld sut mae'r Ceidwadwyr yn trin y proffesiwn, gallwn edrych dros y ffin. Rydym yng nghanol anghydfod gydag athrawon ym mhob rhan o'r DU. Byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid mewn ffordd sy'n eu parchu yn hytrach na cheisio deddfu i gyfyngu ar eu hawliau. Os yw'n credu mai dyna'r ffordd gywir o ddenu athrawon i'r proffesiwn, mae arnaf ofn fy mod yn credu ei bod wedi camgymryd yn fawr.
Llefarydd Plaid Cymru, Heledd Fychan.
Diolch, Llywydd. Weinidog, ddoe, yn ystod y ddadl ar y gyllideb ddrafft, gofynnais i'r Gweinidog cyllid ystyried goblygiadau'r gyllideb o ran y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg, ac, yn benodol, os oedd cynlluniau i gefnogi mynediad am ddim i deuluoedd lleol neu deuluoedd incwm isel i Eisteddfod yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol eleni. Y llynedd, fe wnaethoch fuddsoddi mewn mynediad am ddim i bawb i Eisteddfod yr Urdd ar flwyddyn canmlwyddiant y mudiad, a 15,000 o docynnau am ddim ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu'r ddau gynllun yn llwyddiant, gyda'r Urdd yn nodi bod cynnydd o 31 y cant wedi bod mewn niferoedd yn mynychu, gydag 20 y cant o ymwelwyr yn dod o 40 y cant o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn sir Ddinbych. Oes bwriad gennych barhau gyda buddsoddiad o'r fath, er mwyn sicrhau bod teuluoedd lleol ar incwm isel yn parhau i fedru mwynhau'r hyn sydd gan ddwy o'n gwyliau cynhenid Cymreig ni i'w cynnig, a manteisio ar yr hyn sydd ganddynt i'w gynnig fel rhan o'r targed i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg?
Wel, fel y gwnaeth yr Aelod ei ddweud, yn 2022-23, gwnaethon ni gynyddu grant craidd yr Eisteddfod Genedlaethol i sicrhau bod gan yr Eisteddfod adnoddau i lwyfannu Eisteddfodau'r dyfodol, a hynny mewn cyfnod o ansicrwydd ariannol. Rŷn ni am ddyrannu cyllid ychwanegol i'r Eisteddfod yn 2023-24 yn y gyllideb ddrafft, er mwyn cryfhau ei strwythurau ymgysylltu cymunedol, sydd mor bwysig i'w gwaith nhw fel gŵyl. Bydd hyn yn golygu dyrannu ryw £1 filiwn i'r Eisteddfod yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. Rŷn ni hefyd yn cefnogi prosiect peilot cynhwysiant cymdeithasol a chymunedol i gyd-fynd â'r ddwy Eisteddfod nesaf mewn ardaloedd lle rŷn ni'n gweld mewnfudo sylweddol a galw mawr am ail gartrefi.
O ran ein cefnogaeth i'r Urdd, mae'r Urdd yn gwneud gwaith ffantastig o ran yr Eisteddfod ac fel mudiad yn ehangach na hynny. Mae swyddogion ar draws y Llywodraeth yn cydweithio â'r Urdd er mwyn sicrhau bod yr Eisteddfod yn parhau i fod yn hygyrch, er mwyn sicrhau bod cyfle i bawb fwynhau gŵyl ieuenctid fwyaf Ewrop, ac rydyn ni'n cefnogi'r Urdd mewn amryw ffyrdd eraill.
Diolch, Weinidog. Dwi dal ddim yn siŵr os yw hynny'n golygu y bydd yna fynediad am ddim i deuluoedd incwm isel i'r Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol eleni. Mi fyddwn i'n gofyn, os nad ydych chi'n bendant o hynny eto, mi fyddai'n dda cael eglurder os bydd hynny'n gallu parhau mewn unrhyw ffordd. Oherwydd, fel sydd wedi'i dangos, mae yna fanteision lu o ran y Gymraeg o ran sicrhau mynediad am ddim, gan olygu bod cyfle i rai pobl fynychu digwyddiad Cymraeg yn eu hardal am y tro cyntaf erioed. Mae hynny yn ysgogi pobl i roi eu plant mewn addysg Gymraeg ac ati. Felly, gaf i ofyn i chi ailystyried neu edrych yn benodol o ran y cwestiwn gwnes i ei ofyn?
Yn ail, fe fyddwch yn ymwybodol, dwi’n siŵr, o gynlluniau arfaethedig gan awdurdodau lleol i gau neu leihau rai gwasanaethau diwylliannol, megis amgueddfa Caerdydd, a gwasanaethau llyfrgelloedd mewn amryw leoliadau yng Nghymru. Mae nifer o brosiectau celfyddydol fel hyn dan fygythiad yn sgil heriau ariannol sylweddol. Rhan greiddiol o’r cwricwlwm newydd, wrth gwrs, yw’r celfyddydau mynegiannol, a dywedir yn y canllaw bod hyn yn allweddol bwysig fel bod dysgwyr yn dod i ddeall a gwerthfawrogi diwylliannau a chymdeithasau yng Nghymru a’r byd. Gyda dyfodol nifer o leoliadau diwylliannol a chelfyddydol mewn perygl, ydych chi’n pryderu beth fydd effaith hyn ar yr elfen benodol hon o’r cwricwlwm newydd, ac ydych chi wedi gofyn i awdurdodau lleol edrych ar effaith toriadau o’r fath ar gyfleoedd addysgiadol ein plant a’n pobl ifanc?
Rydyn ni'n annog ysgolion i edrych ar bob ffynhonnell o brofiadau sydd ar gael i'n pobl ifanc ni fel eu bod nhw'n gallu cael amrywiaeth, ac amrywiaeth yn y Gymraeg yn benodol. Fel gwnes i grybwyll yn fras yn gynharach, mae gennym ni gynllun grant sydd yn darparu cefnogaeth ariannol o safbwynt polisi'r Gymraeg i amryw o sefydliadau a mudiadau sydd yn darparu lot o brofiadau deniadol a diddorol ac addysgiadol i'n pobl ifanc ni. Rŷn ni wrthi ar hyn o bryd yn edrych ar y cynllun grant yn ehangach, ond fe wnaf i ei chyfeirio hi at y gyllideb ddrafft, sy'n dangos yr hyn rydyn ni'n bwriadu ei wneud yn y maes hwn.