Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 8 Chwefror 2023.
Diolch, Lywydd. Weinidog, ers 2017, mae 40 y cant o staff cymorth ysgolion sydd wedi'u cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg wedi gadael. Mae'n amlwg fod problem enfawr gyda chadw staff wrth galon y byd addysg yng Nghymru, sy'n achosi i'r diwydiant golli staff profiadol ar y raddfa hon. Oherwydd hyn, mae ysgolion sy'n brin o arian yn gorfod rhoi hyd yn oed mwy o straen ar eu cyllidebau, ac yn gorfod recriwtio a hyfforddi mwy o staff. Pam eich bod chi wedi caniatáu i'r broblem hon barhau am bron i chwe blynedd bellach, a phryd fydd eich Llywodraeth yn datrys yr argyfwng cadw staff, sydd wedi datblygu i raddau helaeth o dan eich gwyliadwriaeth chi?