Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 8 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:41, 8 Chwefror 2023

Rydyn ni'n annog ysgolion i edrych ar bob ffynhonnell o brofiadau sydd ar gael i'n pobl ifanc ni fel eu bod nhw'n gallu cael amrywiaeth, ac amrywiaeth yn y Gymraeg yn benodol. Fel gwnes i grybwyll yn fras yn gynharach, mae gennym ni gynllun grant sydd yn darparu cefnogaeth ariannol o safbwynt polisi'r Gymraeg i amryw o sefydliadau a mudiadau sydd yn darparu lot o brofiadau deniadol a diddorol ac addysgiadol i'n pobl ifanc ni. Rŷn ni wrthi ar hyn o bryd yn edrych ar y cynllun grant yn ehangach, ond fe wnaf i ei chyfeirio hi at y gyllideb ddrafft, sy'n dangos yr hyn rydyn ni'n bwriadu ei wneud yn y maes hwn.