Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 8 Chwefror 2023.
Prynhawn da, Gweinidog. Dwi eisiau gofyn am gyfrifau dysgu personol, os gwelwch chi'n dda. Roedd y rhain yn cael eu datblygu gan Kirsty Williams yn y bumed Senedd i sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i ddysgu yma yng Nghymru. Gaf i ofyn, plîs, am ddiweddariad ar y cyfrifau, a sut ydych chi'n cydweithio efo Gweinidog yr Economi i sicrhau bod pobl ifanc yma yng Nghymru yn cael y sgiliau mae angen iddyn nhw eu cael, yn enwedig i'r economi werdd? Diolch yn fawr iawn.