2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru ar 8 Chwefror 2023.
5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi ynglŷn â sut y gall y system addysg helpu i fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau yng Nghymru? OQ59084
Mae trafodaethau gyda Gweinidog yr Economi wedi canolbwyntio'n bennaf ar sut mae'r system addysg yn cefnogi'r agenda sgiliau a'r warant i bobl ifanc. Hefyd, yr wythnos hon, trafododd y Cabinet gwestiwn sgiliau sero net, gan gynnwys rôl addysg wrth gyflawni ein huchelgeisiau yn y maes pwysig hwnnw.
Diolch am yr ateb, Gweinidog.
Mae gwaith diweddar gan Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu wedi dangos, dros y pum mlynedd nesaf, fod Cymru angen 9,100 o newydd-ddyfodiaid ychwanegol i'r byd adeiladu, a nodwyd bod gosod brics, rolau trydanol a thoi yn feysydd y mae galw arbennig amdanynt. Gyda'r gyllideb ddrafft, mae cyfle yma i adeiladu ar sut mae'r system addysg yn cefnogi pobl i mewn i'r diwydiannau hyn, ond fel y crybwyllais ddoe, mae sgyrsiau a gefais gyda'r sector yn tynnu sylw at yr heriau y mae dysgwyr yn eu hwynebu yn ystod eu haddysg a allai danseilio eu cynnydd i yrfa yn y diwydiant. Yn amlach na pheidio, mae'r heriau hyn yn ymwneud â gallu myfyrwyr incwm isel i ariannu eu haddysg, a'r hyn y mae colegau'n ei weld yw myfyrwyr yn gadael addysg i gael swyddi mwy hygyrch sy'n talu cyflogau uwch i ddechrau, ond nad ydynt yn cyflawni anghenion hirdymor ein cymunedau yn y pen draw. Bydd cadw staff yn allweddol i fynd i'r afael â phrinder sgiliau o'r fath. Felly, sut mae'r Gweinidog yn rhagweld y bydd yn mynd i'r afael â'r heriau penodol iawn hyn, ac a yw'n credu bod cynyddu'r lwfans cynhaliaeth addysg yn cynnig ateb posibl?
Rwy'n edrych ymlaen at y ddadl y byddwn yn ei chael yn yr wythnosau sydd i ddod mewn perthynas â'r lwfans cynhaliaeth addysg yn benodol. Bydd yn gwybod, o fy ymddangosiadau blaenorol yn y cwestiynau hyn ac yn y trafodaethau a gawsom, fod y pwysau gwirioneddol ar gyllidebau wedi golygu nad ydym wedi gallu cynyddu'r lwfans cynhaliaeth addysg, ond rydym yn hapus iawn o fod wedi gallu ei gynnal, ac nid yw hynny wedi bod yn wir ar draws rhannau eraill o'r DU, fel y bydd yn gwybod. Rwyf hefyd wedi bod yn falch iawn o allu cynyddu'r cyllid sydd ar gael i golegau addysg bellach mewn perthynas â'r gronfa ariannol wrth gefn, sydd ar gael, fel y gŵyr, i gefnogi myfyrwyr mewn addysg bellach sydd o dan bwysau arbennig. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi myfyrwyr yn y sefyllfa honno yn y ffordd rwy'n gwybod ei fod yntau hefyd. Bydd hefyd yn cofio ein bod ni, dros y ddwy flynedd ddiwethaf, wedi sicrhau cynnydd mawr yn y cyllid sydd ar gael i golegau addysg bellach er mwyn gallu cynnig yr ystod ehangach honno o sgiliau y mae'n eu nodi yn ei gwestiwn, ac rwy'n cytuno ag ef eu bod yn bwysig iawn.
Weinidog, mae'n anodd dychmygu sut le fydd gweithle yfory. Pe bai rhywun wedi dweud yr adeg hon y llynedd y byddai deallusrwydd artiffisial yn pasio'r cyfweliad ar gyfer swydd peiriannydd rhaglen lefel 3 yn Google, byddem wedi meddwl eu bod yn wallgof, ond dyna'n union a wnaeth ChatGPT ychydig ddyddiau yn ôl. Mae'r cynnydd cyflym mewn deallusrwydd artiffisial yn cyflwyno set hollol newydd o heriau ar gyfer y farchnad swyddi yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae hefyd yn creu cyfres gyfan o gyfleoedd newydd i ddysgwyr heddiw. Weinidog, sut fydd y system addysg yn addasu i sicrhau bod pobl ifanc yn gallu cofleidio'r technolegau newydd hyn a'r rhai sy'n dod i'r amlwg ac ymbaratoi ar gyfer beth bynnag y bydd yfory'n ei daflu atynt? Diolch.
Mae Altaf Hussain yn gwneud pwynt pwysig iawn o ran natur newidiol ein heconomi a pha mor anodd y gall fod i ragweld y newidiadau hynny weithiau. Mae hyn yn dangos i mi bod angen i ni sicrhau bod ein pobl ifanc wedi'u harfogi ar gyfer unrhyw newid yn y gymdeithas, a bod angen i ni ddarparu sgiliau a phrofiadau iddynt, yn ogystal â gwybodaeth, fel y gallant lywio economi sy'n newid mewn ffordd sy'n blaenoriaethu eu diddordebau ac sy'n eu galluogi i ffynnu.
Rwy'n credu ei fod yn iawn i dynnu sylw at y ffaith bod yna set arbennig o gyfleoedd, a heriau hefyd, mewn perthynas â thrawsnewidiad digidol ein cymdeithas, ac mae deallusrwydd artiffisial yn un o'r enghreifftiau hynny. Bydd yn gwybod bod yna set o gymwyseddau digidol trawsbynciol wrth wraidd ein cwricwlwm newydd. Bydd hefyd yn gwybod am y buddsoddiad sylweddol rydym wedi'i wneud fel Llywodraeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf i sicrhau lefel eang iawn o fynediad at gyfrifiaduron, gliniaduron, tabledi a dyfeisiau eraill, a'r cysylltedd band eang sy'n cefnogi hynny. Yr her nawr yw gwneud yn siŵr bod ein hysgolion yn gallu manteisio ar swyddogaeth lawn hwnnw, ac rydym yn gweithio gyda'n proffesiwn i sicrhau bod hynny'n digwydd.
Prynhawn da, Gweinidog. Dwi eisiau gofyn am gyfrifau dysgu personol, os gwelwch chi'n dda. Roedd y rhain yn cael eu datblygu gan Kirsty Williams yn y bumed Senedd i sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i ddysgu yma yng Nghymru. Gaf i ofyn, plîs, am ddiweddariad ar y cyfrifau, a sut ydych chi'n cydweithio efo Gweinidog yr Economi i sicrhau bod pobl ifanc yma yng Nghymru yn cael y sgiliau mae angen iddyn nhw eu cael, yn enwedig i'r economi werdd? Diolch yn fawr iawn.
Wel, diolch i Jane Dodds am y cwestiwn hwnnw. Mae'r cyfrifau'n rhywbeth dwi'n ffan mawr ohonyn nhw fy hunan ac wedi cynyddu'r gyllideb ar eu cyfer nhw'n sylweddol. Mae'n bwysig ein bod ni'n parhau i greu cyfleoedd fel bod pobl mewn gwaith yn gallu adnewyddu a thrawsnewid eu sgiliau, a dau o'r meysydd lle rŷn ni wedi pwysleisio ein bod ni'n eu hariannu yw sgiliau digidol, fel roedd Altaf Hussain yn sôn jest nawr, a hefyd sgiliau gwyrdd. Wrth inni fynd ati i edrych ar gynyddu'r gyllideb ar gyfer y PLAs, un o'r blaenoriaethau mwyaf yw sicrhau ein bod ni'n adlewyrchu anghenion yr economi, felly mae'r trafodaethau gyda Gweinidog yr Economi yn sicr yn mynd i'r perwyl hynny.
Yn y flwyddyn ariannol hon, fe wnes i ddyrannu bron i £18 miliwn ar gyfer y cynllun PLA, a beth rŷn ni wedi gweld yn digwydd yw ein bod ni'n gallu—ac mae hyn wedi digwydd yn ystod cyfnod COVID hefyd—darparu arian a wedyn sicrhau ein bod ni'n cefnogi pobl i gael sgiliau newydd mewn cyfnod byr iawn. Mae'r gallu i symud yn gyflym mor bwysig yng nghyd-destun economi sydd yn newid.