Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 8 Chwefror 2023.
Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Mae Ysgol Gynradd Markham yn etholaeth Islwyn, a adeiladwyd dros 110 mlynedd yn ôl ym 1913, yn gwasanaethu'r gymuned leol. Mae'n faestref werdd ond nid yw'n ddeiliog. A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch pennaeth ysgol Markham, Mrs Lindsey Pritchard, ei staff, y llywodraethwyr a'r disgyblion ar adroddiad disglair gan Estyn sydd wedi canu clodydd yr ysgol yn ei adroddiad arolygu diweddar? Arwyddair yr ysgol, yn addas iawn, yw 'Gwneud y Gorau o Bob Dydd'. Nododd Estyn fod ysgol gynradd Markham yn
'lle meithringar a bywiog i ddisgyblion a staff', ac roedd plant yn teimlo'n 'falch o fod yn rhan ohoni'. Nodwyd hefyd fod staff 'uchelgeisiol' yn helpu disgyblion i wneud cynnydd da iawn yn ystod eu hamser yn yr ysgol, a bod gan bob dosbarth
'ffocws cryf ar ddatblygu sgiliau llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol'.
Weinidog, pa neges y gallwch ei rhoi felly i gymuned Markham mewn perthynas â'u hysgol falch? Ac a wnewch chi bob ymdrech i ymweld ag ysgol gynradd Markham yn ystod eich amserlen brysur yn 2023 i weld drosoch eich hun sut y gall gwaith partneriaeth Llywodraeth Cymru, awdurdodau addysg lleol ac ysgolion cymunedol rhagweithiol drawsnewid cymunedau a newid bywydau a llwybrau plant Cymru am byth? Diolch.