Y Bwlch Sgiliau

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 8 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Altaf Hussain Altaf Hussain Conservative 2:54, 8 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Weinidog, mae'n anodd dychmygu sut le fydd gweithle yfory. Pe bai rhywun wedi dweud yr adeg hon y llynedd y byddai deallusrwydd artiffisial yn pasio'r cyfweliad ar gyfer swydd peiriannydd rhaglen lefel 3 yn Google, byddem wedi meddwl eu bod yn wallgof, ond dyna'n union a wnaeth ChatGPT ychydig ddyddiau yn ôl. Mae'r cynnydd cyflym mewn deallusrwydd artiffisial yn cyflwyno set hollol newydd o heriau ar gyfer y farchnad swyddi yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae hefyd yn creu cyfres gyfan o gyfleoedd newydd i ddysgwyr heddiw. Weinidog, sut fydd y system addysg yn addasu i sicrhau bod pobl ifanc yn gallu cofleidio'r technolegau newydd hyn a'r rhai sy'n dod i'r amlwg ac ymbaratoi ar gyfer beth bynnag y bydd yfory'n ei daflu atynt? Diolch.