Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 8 Chwefror 2023.
Rwyf wedi ysgrifennu ddwywaith yn ystod y pythefnos diwethaf, yn annog Llywodraeth y DU i roi diwedd ar yr arfer ffiaidd o osod mesuryddion rhagdalu gorfodol. Galwaf arnynt ac ar gyflenwyr ynni i gael gwared ar unrhyw fesuryddion a osodwyd yn orfodol y gaeaf hwn, ac rwy’n ceisio cael cyfarfod brys â’r Ysgrifennydd Gwladol.