Part of the debate – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 8 Chwefror 2023.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'n Cadeirydd rhagorol, Jayne Bryant, a hefyd i fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor, wrth gwrs, a'r clercod, y staff a'r bobl a roddodd dystiolaeth ac a wnaeth yr adroddiad hanfodol hwn yn realiti—ac wrth gwrs, i'r Gweinidog am ei gydweithrediad hefyd. Mae'n hanfodol ein bod yn mynd i'r afael â lefelau absenoldeb disgyblion sy'n codi'n aruthrol, problem sydd wedi'i gwaethygu, fel y clywsom eisoes, gan y pandemig a'r argyfwng costau byw. Credaf fod yr adroddiad yn un trylwyr a hoffwn ganolbwyntio ar ambell fater allweddol sy'n codi ohono heddiw.
Rydym wedi gweld bod disgyblion anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu hamddifadu o gefnogaeth briodol ac amserol, ac mae hynny'n arwain at absenoldeb cyson o'r ysgol. Canfu Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru fod 43 y cant o fyfyrwyr awtistig yn absennol yn gyson, ystadegyn sy'n peri pryder. Gwelwn hefyd mai myfyrwyr sy'n byw mewn tlodi, fel y dywedwyd eisoes, yw cyfran uchel o'r rhai sy'n absennol o'r ysgol, ac roedd hyn yn glir iawn yn yr adroddiad drwyddo draw.
Canfu arolwg blynyddol tlodi plant a theuluoedd 2021 fod 94 y cant o addysgwyr yng Nghymru yn dweud bod tlodi wedi cael effaith ar brofiad ysgol plentyn, sydd wrth gwrs wedi ei waethygu bellach gan yr argyfwng costau byw a'r pandemig. Mae'r tueddiadau presennol yn achos braw, ac mae angen inni sicrhau ein bod yn ei gwneud mor hawdd â phosibl i fyfyrwyr fynychu'r ysgol, a'n bod mor gefnogol â phosibl i ddysgwyr unigol gyda'u hanghenion unigol, er mwyn sicrhau nad ydynt yn colli'r addysg y maent oll yn ei haeddu.
Mae'n amlwg o'r argymhellion fod angen dull amlweddog arnom i sicrhau ein bod yn atal y duedd bryderus hon. Mae argymhelliad 3 yr adroddiad yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod cyllid digonol gan awdurdodau lleol, fel yr amlinellodd ein Cadeirydd eisoes, i sicrhau bod gan blant a phobl ifanc fynediad at opsiynau cludiant ysgol priodol ar gyfer eu cludo i'r ysgol yn ddiogel. Mae hyn yn gwbl hanfodol, yn enwedig pan fo cyllidebau awdurdodau lleol mor dynn yn yr hinsawdd bresennol.
Fodd bynnag, dull Llywodraeth Cymru yw derbyn hyn mewn egwyddor yn unig, a'i gynnwys gyda'r Papur Gwyn 'Un Rhwydwaith, Un Amserlen, Un Tocyn', sydd yn fy marn i yn lleihau pwysigrwydd y mater hwn ac yn creu oedi cyn y ceir gweithredu go iawn. Fel y dywedais yn y pwyllgor—ac rwy'n gweld y pethau hyn yn fy rhanbarth fy hun yn llawer rhy reolaidd, fel pawb ohonom—mae angen y dull disgybl yn gyntaf a gyflwynwyd gan y pwyllgor. Mae angen ei ddiwygio'n gyfan gwbl, ac nid gwneud addasiadau bach yn unig.
Ond mae'n rhaid cofio bod yna blant nawr sydd angen help gyda chludiant i'r ysgol, ac ni allwn aros i'r Papur Gwyn droi'n weithredu ymhen blynyddoedd i ddod. Mae angen inni weld gweithredu ar unwaith i ehangu'r cynnig cludiant i'r ysgol, gan leihau'r gost i rieni, oherwydd, am y tro, mae nifer yn methu fforddio cludiant i'r ysgol, ac ni allant fforddio gyrru eu plant i'r ysgol chwaith. Mae hyn yn creu sefyllfa ofidus i rieni, ac wrth gwrs mae'n effeithio ar y dysgwyr ac yn effeithio ar lefel yr absenoldeb a welwn. Rwy'n cytuno'n llwyr â Jayne Bryant na ddylai hyn fod yn rhwystr i ddysgu yn yr oes sydd ohoni.
Mae argymhelliad 4 yn mynd i'r afael â'r myfyrwyr sy'n fwyaf tebygol o fod yn absennol, a pham. Fel y gwyddom o'r adroddiad, gall amrywio o anghenion ADY i broblemau iechyd meddwl, a materion iechyd meddwl nad ydynt yn cael sylw digonol a chefnogi dysgwyr i allu aros yn yr ysgol. Er fy mod yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn, ac y byddant yn ystyried data absenoldeb a gwahardd i lywio cefnogaeth i lesiant dysgwyr, mae'n hanfodol, lle bo angen cymorth, ei fod yn cael ei gyflwyno ar frys ar lawr gwlad lle mae ei angen. Mae'r data'n ddiystyr heb y gefnogaeth briodol i'w ddilyn, ac rwy'n siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hyn heb dderbyn yr argymhelliad.
Mae angen inni wybod hefyd sut bydd Llywodraeth Cymru yn monitro'r ddarpariaeth a'i llwyddiant neu ei methiant. Hoffwn hefyd i'r Gweinidog fynd i'r afael â sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y genhedlaeth hon o fyfyrwyr yn gallu cael mynediad at gludiant i'r ysgol, nid dim ond canolbwyntio ar y genhedlaeth nesaf, ac egluro sut mae'n sicrhau nad yw rhai sy'n derbyn addysg yn y cartref yn cael eu cynnwys yn y ffigurau absenoldeb ysgol, gan ei bod yn hanfodol inni sicrhau bod y cyfrwng addysg hwnnw'n cael ei gadw'n agored a heb ei ddifwyno. Ond mae'n bwysig fod Llywodraeth Cymru—. Mae angen inni ddeall pam y gwelwyd cynnydd mor sylweddol yn nifer y rhai sy'n derbyn addysg yn y cartref ers dechrau'r pandemig.
Mae'r adroddiad sydd ger ein bron yn tynnu sylw at y brys i fynd i'r afael â hyn, fel y nododd ein Cadeirydd, felly hoffwn glywed gan y Gweinidog sut mae'n gweithio nawr gydag awdurdodau lleol ac arweinwyr ysgolion i sicrhau ein bod yn gwrthdroi'r duedd bryderus hon yn lefelau absenoldeb disgyblion. Ydy, mae wedi gostwng ychydig, ond mae'r ffigurau'n dal i fod yn llawer rhy uchel. Diolch.