Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 8 Chwefror 2023.
Fe wnaethom saith argymhelliad i gyd, a chafodd pob un ohonynt eu derbyn neu eu derbyn mewn egwyddor. Rydym yn gwybod bod Llywodraeth Cymru wrthi'n adolygu eu canllawiau presenoldeb ar hyn o bryd, ac rydym yn falch o weld y Gweinidog yn ymrwymo i'r adolygiad hwn, sy'n cwmpasu'r canllawiau ar waharddiadau ac ymddygiad, gan fod cysylltiad agos rhwng y materion hyn. Rydym hefyd yn croesawu'r ymrwymiad y bydd y canllawiau diwygiedig yn canolbwyntio ar y plentyn ac yn seiliedig ar ymarfer sy'n ystyriol o drawma a thystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio mewn gwirionedd.
Clywsom dystiolaeth glir iawn fod gan bawb ran i'w chwarae yn y gwaith o hyrwyddo a chefnogi presenoldeb cyson. Felly, mae'n dda clywed gan y Gweinidog y bydd y canllawiau hyn yn nodi'r rolau y gall pob partner eu chwarae, gan fynd y tu hwnt i staff yr ysgol yn unig, a chwmpasu awdurdodau lleol, llywodraethwyr, a rhieni a gofalwyr wrth gwrs.
Yn ystod y pandemig, newidiodd y math o ddata presenoldeb a gafodd ei gasglu a'i gyhoeddi, sy'n ei gwneud hi'n anodd cymharu'r data ar bresenoldeb sydd ar gael cyn y pandemig a'r data sydd ar gael nawr. Ond mae'r tueddiadau cyffredinol yn dangos bod lefelau presenoldeb wedi gostwng ers i'r ysgolion gau yn sgil y pandemig. Pan gyhoeddwyd yr adroddiad, presenoldeb cyfartalog y flwyddyn academaidd gyfredol oedd 91.4 y cant. O ddata diweddaraf Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd y bore yma, roedd presenoldeb cyfartalog y flwyddyn academaidd hon wedi gostwng i 89.3 y cant. Mae'r data hefyd yn dangos bod y gyfradd presenoldeb yn is ymhlith dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim nag ymhlith dysgwyr nad ydynt yn gymwys.
Clywsom dystiolaeth anecdotaidd fod yr argyfwng costau byw yn creu rhwystr ychwanegol i blant a phobl ifanc sy'n mynychu'r ysgol. Er bod hyn yn anecdotaidd, mae'n adeiladu ar bryderon hirsefydlog am effaith cost y diwrnod ysgol a'r rhwystrau y gall eu creu. Roedd hefyd yn dystiolaeth anecdotaidd yr oedd yr holl randdeiliaid i'w gweld yn cytuno â hi. Ac rydym yn glir iawn na ddylai'r un plentyn golli ysgol am nad yw eu teulu'n gallu fforddio iddynt fod yn bresennol. Mae hyn yn cynnwys anfanteision sydd eisoes yn bodoli, ac sy'n sylfaenol annheg.
Felly, fe wnaethom argymhelliad 2 a alwai am astudiaeth frys i weld sut mae'r argyfwng costau byw presennol yn effeithio ar bresenoldeb yn yr ysgol. Oherwydd bod y dystiolaeth hon yn anecdotaidd ar hyn o bryd, roeddem yn pryderu ei bod yn ei gwneud hi'n anos creu atebion ac ymyriadau polisi effeithiol. Fe wnaethom alw am wneud hyn o fewn dau fis i ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad, ac iddo gael ei gefnogi gan gynllun gweithredu.
Wrth ymateb i'r argymhelliad hwn, dywedodd Llywodraeth Cymru fod yr amserlen a nodwyd yn heriol. Dywedasant eu bod mewn trafodaethau anffurfiol gydag awdurdod lleol ynglŷn â chynnig ymchwil a fyddai'n edrych yn fanwl ar bresenoldeb mewn ysgolion uwchradd, gan ganolbwyntio ar ba ddulliau ac ymyriadau sy'n cael yr effaith fwyaf ar deuluoedd incwm is. Nawr, er bod hwn yn swnio fel gwaith addawol, nid yw'n cyrraedd uchelgais ein hargymhelliad. Fe wnaethom osod amserlen heriol iawn ar gyfer yr argymhelliad oherwydd ein bod yn teimlo angen i ddeall ar frys sut mae'r argyfwng presennol yn effeithio ar bresenoldeb yn yr ysgol ar hyn o bryd ac i nodi pa gamau y gellir eu cymryd yn gyflym i fynd i'r afael â'r broblem. Os yw plant a phobl ifanc yn dechrau colli ysgol am nad ydynt yn gallu fforddio mynychu, rydym yn poeni y bydd hyn yn ei gwneud hi'n anos ail-ennyn eu diddordeb mewn addysg po hiraf y byddant yn absennol.
Nodwn hefyd mai edrych ar bresenoldeb yn yr ysgol uwchradd yn unig y byddai'r cynnig ymchwil hwn yn ei wneud. Nid yw'n glir ychwaith a fyddai'r cynnig yn edrych ar y darlun ar draws Cymru. Efallai y gall y Gweinidog amlinellu pa waith y mae'n bwriadu ei wneud i edrych ar y dystiolaeth mewn lleoliadau cynradd. A Weinidog, a allwch chi hefyd gadarnhau y byddai'r cynnig ymchwil yn cwmpasu Cymru gyfan, ac os nad ydych yn gallu cefnogi'r cynnig ymchwil a nodir yn ymateb Llywodraeth Cymru, pa waith a allai gymryd ei le?
Roedd cysylltiad agos rhwng y materion costau byw ag argymhelliad 3, ar deithio gan ddysgwyr. O'n gwaith ar y pwyllgor hwn ond hefyd fel Aelodau unigol—rhywbeth y gwnaethom ei drafod ddoe hefyd yn y ddadl ar y gyllideb—rydym yn ymwybodol iawn o'r rhwystrau y mae rhai plant a phobl ifanc yn eu hwynebu i gael mynediad at gludiant priodol a fforddiadwy i'r ysgol. Fe wnaethom alw am ddull o wneud penderfyniadau teithio sy'n rhoi'r disgybl yn gyntaf, gydag anghenion y disgybl unigol yn hytrach na chost yn ffactor bwysicaf. Rydym yn cydnabod bod hyn yn gofyn llawer gan awdurdodau lleol mewn cyfnod anodd yn ariannol, felly galwasom ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan awdurdodau lleol ddigon o gyllid i allu cyflawni. Fe alwasom hefyd am sicrhau bod yr adolygiad presennol yn radical wrth chwilio am atebion arloesol i'r broblem hirsefydlog hon. Ni ddylai presenoldeb plant yn yr ysgol gael ei rwystro am nad oes ganddynt opsiynau cludiant fforddiadwy neu ddiogel.
Wrth ymateb, mae'r Gweinidog yn amlinellu'r adolygiad presennol a'r newidiadau sydd i ddod i'r ddarpariaeth o wasanaethau bws. Fodd bynnag, rydym yn pryderu, fel gyda'r argymhelliad blaenorol, nad yw hyn yn adlewyrchu'r angen brys i fynd i'r afael â'r mater hwn nawr. Felly, pryd fydd yr adolygiad o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 wedi ei gwblhau, a phryd y gallwn ddisgwyl gweld camau gweithredu'r adolygiad yn cael eu gweithredu?
Yn olaf, hoffwn ofyn am fwy o eglurder gan y Gweinidog ar yr ymateb i argymhelliad 1 a alwai am ymgyrch genedlaethol yn canolbwyntio ar effeithiau cadarnhaol presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol. Credwn y dylid cyflwyno hyn ar y cyd ag ymgyrchoedd lleol wedi'u haddasu'n well ar lefel awdurdod lleol ac ysgol, a fyddai'n ategu ymgyrch genedlaethol. Wrth ymateb i'r argymhelliad hwn, dywedodd y Gweinidog y bydd Llywodraeth Cymru'n cynyddu cyfathrebiadau er mwyn pwysleisio pwysigrwydd mynd i'r ysgol. A all roi mwy o fanylion i ni ynglŷn â fformat y cyfathrebiadau hyn, ac ai dyma'r ymgyrch genedlaethol y mae'r pwyllgor am ei gweld?
Felly, wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad unwaith eto, gan gynnwys y rhai a roddodd dystiolaeth ysgrifenedig a llafar, i fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor, a'r Gweinidog a'i swyddogion am ymwneud yn gadarnhaol â'n gwaith. Rwy'n edrych ymlaen at glywed beth sydd gan gyd-Aelodau a'r Gweinidog i'w ddweud. Diolch.