Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 8 Chwefror 2023.
Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw fel cefnogwr cryf i gais y porthladd rhydd Celtaidd. Mae’r cyfleoedd a gynigir gan y porthladd rhydd Celtaidd i fy rhanbarth i ac ardal ehangach de-orllewin Cymru yn aruthrol. Dyna pam fod gan y cais gefnogaeth ar draws y sbectrwm gwleidyddol ac ar draws y rhanbarth. Pe bai Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r cais, gallai sefydlu porthladd rhydd i gynnwys dociau Port Talbot ac Aberdaugleddau arwain at fwy na £5.5 biliwn o fewnfuddsoddiad i’r rhanbarth. Ond pigyn y rhewfryn yn unig yw hyn, a dyna pam fod Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Penfro yn chwarae rhan allweddol yng nghonsortiwm y cais.
Bydd sefydlu’r porthladd rhydd Celtaidd yn arwain at ffrwydrad o swyddi gwyrdd wrth i’r rhanbarth geisio harneisio potensial y môr Celtaidd a manteisio ar hydrogen gwyrdd. Bydd ynni gwynt arnofiol ar y môr yn drawsnewidiol, nid yn unig o ran helpu i ddatgarboneiddio a diogelu ein cyflenwad ynni yn y dyfodol, ond bydd y diwydiant gwerth £54 biliwn yn sbardun allweddol i drawsnewid y porthladdoedd ym Mhort Talbot ac Aberdaugleddau yn hybiau ynni gwyrdd modern, porthladdoedd a fydd yn adeiladu ar arbenigedd diwydiannol ein gorffennol gan sicrhau dyfodol mwy disglair a gwyrddach i Gymru. Gan adeiladu ar sylfaen sgiliau arbenigol helaeth, seilwaith trawsyrru a phiblinellau, cyfalaf naturiol a chyfleusterau dosbarthu'r rhanbarth, bydd y porthladd rhydd Celtaidd yn darparu’r sgiliau, y gwasanaethau a’r gofod i ddiwydiannau ffynnu—diwydiannau fel Tata Steel ym Mhort Talbot, un o gyflogwyr mwyaf fy rhanbarth ac un o ddiwydiannau strategol ein gwlad.
Mae’r cyfleoedd y mae’r porthladd rhydd Celtaidd yn eu cynnig i waith dur Port Talbot yn niferus, ond y pwysicaf oll yw’r cyfle i chwarae rhan allweddol yn y gwaith o weithgynhyrchu cydrannau ynni gwynt arnofiol ar gyfer y môr Celtaidd, ac yna adeiladu ar y cyfleoedd hynny i allforio i weddill y DU a ledled y byd. Mae gan Tata, gan weithio ochr yn ochr â'r porthladd rhydd Celtaidd, botensial i ddod yn un o gynhyrchwyr dur gwyrdd cyntaf y byd ac i ddatblygu arbenigedd gweithgynhyrchu ar gyfer y genhedlaeth nesaf o ynni adnewyddadwy. Rydym mewn ras i ddatgarboneiddio ein diwydiannau, ein sectorau ynni a’n seilwaith. Os gallwn wneud hynny gyda'r rhain yn gyntaf, gallwn arwain y ffordd, a gallwn elwa hefyd o'r cyfleoedd economaidd ehangach.
De Cymru a arweiniodd y chwyldro diwydiannol cyntaf, ac os gallwn chwarae ein cardiau’n iawn, gallwn arwain yr un nesaf. Mae fy rhanbarth yn gartref i’r nifer fwyaf o bobl sy’n gweithio mewn gweithgynhyrchu o gymharu ag unrhyw le arall yng Nghymru, ac er ein bod wedi gweld dirywiad gweithgynhyrchu a diwydiant trwm dros y degawdau diwethaf, mae’r potensial i adeiladu ar y sgiliau hynny'n anfesuradwy. Gyda’r cynllun cywir ar waith, gallwn drawsnewid y rhanbarth a chreu swyddi newydd medrus iawn y mae galw mawr amdanynt, swyddi gwyrdd ym mhob maes, o weldio i wyddor data. Credaf mai cais y porthladd rhydd Celtaidd yw’r cynllun cywir, ac rwy’n annog Llywodraeth Cymru, ynghyd â Llywodraeth y DU, i gefnogi cais y porthladd rhydd Celtaidd. Hoffwn ofyn i fy nghyd-Aelodau gefnogi ein cynnig heddiw hefyd er mwyn cyfleu neges glir i’r ddwy Lywodraeth fod y Senedd hon yn cefnogi'r cais ar gyfer porthladd rhydd yng Nghymru. Diolch yn fawr.