Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 8 Chwefror 2023.
Rwy'n deall bod yna drafodaeth bwysig i'w chael ynglŷn â sut rydym yn ariannu gwasanaethau yma yng Nghymru ac mai amrywio lefelau trethi yw'r ateb i wleidyddion wrth edrych ar godi refeniw ychwanegol, ond ni ddylem anghofio faint o gyllideb Cymru, tua £4 biliwn, sydd eisoes yn cael ei godi drwy ddulliau treth datganoledig; caiff tua £2.8 biliwn ei godi drwy gyfraddau Cymreig o dreth incwm yn unig, fel y gwyddom. Mae'r rhain yn ffynonellau cyllid sylweddol a chyn inni geisio cael mwy o bwerau dros bolisi trethu ac edrych yn anochel ar gynyddu refeniw trethi, mae angen inni asesu'r sylfaen dreth yma yng Nghymru, oherwydd yr hyn sydd ar goll o'r cynnig yw pa effaith y gallai cael pwerau llawn i osod treth incwm ac amrywio trethi fel yr Alban ei chael ar incwm pobl. Rydym eisoes yn gwybod, yn gyffredinol, fod cyfran fwy o sylfaen dreth Cymru—dros 90 y cant o'r sylfaen dreth—yn talu'r gyfradd sylfaenol. Mae hyn yn uwch na chyfartaledd y DU. Tra bod y gyfradd sylfaenol, yng Nghymru, yn 59.3 y cant o gyfanswm y dreth incwm, dim ond 34.9 y cant ydyw yng ngweddill y DU, ac eithrio'r Alban.
Nawr, gellid dadlau y byddai modd sefydlu cyfradd newydd is o dreth incwm yng Nghymru pe bai'r pwerau gennym i wneud hynny, ac mae hynny'n wir. Os edrychwn ni ar yr Alban, gwyddom nad aur yw popeth melyn. Nid yw'r gyfradd gychwynnol ond ar gyfer pobl sy'n ennill rhwng £12,571 a £14,732, ac mae'r gyfradd wedi'i gosod ar 1 y cant yn unig yn is na'r gyfradd sylfaenol. Yn y cyfamser mae'r rhai ym mand cyfradd ganolraddol yr Alban yn talu mwy na'r rhai yng nghyfradd sylfaenol y DU. Yn wir, mae rhywun sy'n ennill £43,600 yn yr Alban yn agored i gyfradd dreth incwm syfrdanol sydd 22 y cant yn uwch nag unigolyn cyfatebol mewn mannau eraill yn y DU.
Felly, gallai fod yna addewidion gwleidyddol y byddai pwerau ychwanegol yn arwain at fandiau treth tecach, ond mae'r realiti gwleidyddol yn aml yn wahanol. Gwyddom mai cynlluniau presennol Plaid Cymru, fel y clywsom ddoe, fyddai codi treth incwm Cymru 1g, gan daro pocedi'r mwyafrif o drethdalwyr Cymru, ac yn enwedig y rhai sydd leiaf abl i fforddio talu mwy. Er tegwch i'r Gweinidog, mae ganddi safbwynt clir ar y mater hwn, er bod gennyf gwestiynau ynglŷn â beth mae'r addewid i beidio â chodi lefelau treth incwm cyhyd ag y mae effeithiau'r pandemig yn parhau yn ei olygu mewn gwirionedd, a pha drothwy y mae'r Llywodraeth yn ei ddefnyddio i benderfynu hyn.
Ond y broblem gyda gwelliant Llywodraeth Cymru yw ei fod yn cyfeirio at ei chynlluniau treth yn y dyfodol, sy'n cynnwys pethau fel treth dwristiaeth. Mae'r diwydiant wedi egluro ei fod yn gweld syniad o'r fath fel arf di-fudd mewn cyfnod o anhawster mawr i'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru. Mae perygl y daw'n arf di-awch, gyda busnesau mewn ardaloedd nad sy'n cyflwyno'r dreth yn cael mantais dros y rhai mewn ardaloedd sy'n cyflwyno ardoll.
Ar gyfer treth incwm a threth dwristiaeth, mae angen inni weld hyn mewn perthynas â'r ffiniau agored rhwng Cymru a gweddill Lloegr. A fyddai codi treth incwm yng Nghymru yn perswadio pobl i symud i rywle arall, a'n bod yn colli eu refeniw treth? A fyddai treth dwristiaeth yn annog pobl i aros mewn llety yn Lloegr ac osgoi talu, a theithio i mewn i Gymru ar gyfer gweithgareddau gwyliau?
Gwn fod Llywodraeth Cymru am gyflwyno trethi eraill hefyd, ond rhaid inni ystyried beth fyddai anfanteision posibl y rhain i'r economi a chymunedau hefyd, oherwydd pan fo Llywodraeth yn credu bod angen treth newydd arni, yn aml mae'n mynd yn ddadl un dimensiwn, yn debyg iawn i'r hyn a welwn gyda'r dreth dwristiaeth.
I gloi, rwy'n credu bod angen inni wneud yn siŵr ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu gyda'n cyllidebau presennol, a'n bod yn ei wario ar feysydd blaenoriaeth cyn inni ddechrau edrych ar gyflwyno trethi. Fel y dywedais yn y Siambr hon o'r blaen, yn anffodus mae'n ymddangos mai safbwynt diofyn Plaid Cymru a Llafur yw trethu, trethu, trethu, a dim arall. Mae angen inni feddwl am arloesi a sut y defnyddiwn yr ysgogiadau sydd gennym yn llawer gwell. Diolch.