Part of the debate – Senedd Cymru am 5:49 pm ar 8 Chwefror 2023.
Mae sgyrsiau ynghylch treth bob amser yn anodd. Nid wyf yn credu y byddai unrhyw un ohonom yn y Siambr yn gwadu hynny. Ond mae'n sgwrs y mae'n rhaid inni ei chael serch hynny. Yn sicr mae yna sgwrs i'w chael ynghylch effeithiolrwydd trethi, fel: beth rydym yn ceisio ei wneud? I ba lefel rydym ni am ailddosbarthu cyfoeth?
Ond mae'n bwysig inni gofio hefyd nad trethiant yw'r ateb i bopeth ar gyfer cyflawni polisi effeithiol. Mae'n sicr yn chwarae ei ran, ac yn y cyd-destun datganoledig presennol mae'n un o'r ychydig ysgogiadau cyllidol sydd ar gael i Lywodraeth Cymru. Nawr, mae darparu polisi effeithiol yn ddibynnol ar ysgogiadau cyllidol hyblyg sy'n wirioneddol ymatebol i'r cymunedau y mae'r canlyniadau polisi yn effeithio arnynt. Mae anhyblygrwydd y model grant bloc, er enghraifft, wedi creu anghysondeb rhwng cyrhaeddiad cynllun polisi a chyflawniad polisi yng Nghymru, sy'n peryglu strategaethau pellgyrhaeddol a hirdymor ar gyfer ymdrin â phroblemau yn ein cymdeithas, yn enwedig mewn perthynas â buddsoddiad cyfalaf mewn seilwaith. Mae enghraifft HS2, lle cafodd Cymru ei hamddifadu o gyllid canlyniadol Barnett, er nad oes un fodfedd o'r trac yn cael ei osod yng Nghymru, yn tanlinellu annhegwch y model grant bloc. Gwnaeth profiad y pandemig amlygu'r anghysondeb hwn hefyd—er enghraifft, Llywodraeth y DU yn gwrthod ymestyn ffyrlo i ddarparu ar gyfer y cyfnod atal byr o gyfyngiadau symud yng Nghymru ym mis Tachwedd 2021 er bod penderfyniad Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn gwbl gyson â'i chymhwysedd datganoledig dros bolisi iechyd.
Mewn gwirionedd, dangosodd y pandemig i bawb ohonom fod angen mwy o bwerau cyllidol yma yng Nghymru, yn enwedig o ran gallu Llywodraeth Cymru i fenthyg. Roeddwn yn darllen, ac rwy'n dal i ddarllen, adroddiadau a gyhoeddwyd gan Dadansoddi Cyllid Cymru, ac yn ystod y pandemig roedd y gwaith a wnaethant ar graffu ar y gyllideb mewn perthynas ag arian COVID-19 yn amhrisiadwy ac yn nodi'n glir y cyfyngiadau ar Lywodraeth Cymru yn gyllidol. Rydym i gyd yn cofio'r feirniadaeth a wnaed o Lywodraeth Cymru yn y Siambr hon am ymatal rhag gwario'r swm cyfan o'r hyn a ddôi gan Lywodraeth y DU. Wrth gwrs, roedd gwariant sylweddol heb ei ddyrannu o fewn y gyllideb. Y Torïaid oedd y beirniaid mwyaf, ond anallu Llywodraeth Cymru i ystwytho unrhyw bŵer cyllidol ystyrlon a orfododd y Llywodraeth i'r sefyllfa honno. Yna, wrth gwrs, gwelwyd colli mynediad Llywodraeth Cymru at gyllid yr UE, a methiant i gael cyllid yn ei le gan Lywodraeth y DU. ''Run geiniog yn llai', dywedwyd wrthym. Mewn gwirionedd, dylent fod wedi bod yn onest a dweud wrthym am anghofio am y geiniog yn llwyr.
Nawr, i gloi, Lywydd, mae gwella pŵer y Senedd dros drethi datganoledig nid yn unig yn gwneud synnwyr o safbwynt ymarferol, ond byddai hefyd yn cynyddu atebolrwydd Llywodraeth Cymru dros ei phenderfyniadau polisi ei hun, rhywbeth rwy'n siŵr y byddai pob Aelod yn y Siambr hon yn cytuno ei fod yn hanfodol os ydym am gael democratiaeth sy'n gweithredu'n dda yng Nghymru. Roedd datganoli yn ymwneud â dod â phŵer yn agosach at y bobl yng Nghymru. Roedd datganoli trethi yn ymwneud â dod â'r cyfrifoldeb am godi'r arian, yn hytrach na gwario'n unig, yn agosach at y bobl. Mae yna beth ffordd i fynd eto wrth gwrs cyn y gallwn wneud unrhyw beth ystyrlon i godi'r arian hwnnw mewn gwirionedd.