7. Dadl Plaid Cymru: Datganoli treth incwm

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:05 pm ar 8 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 6:05, 8 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Mae yna gost i wneud dim. Mae i absenoldeb gweithredu ganlyniadau i'n cymdeithas, ac mae ein dadl heddiw i gyd yn ymwneud â chostau. Nid yn unig pa gostau y dylai pobl eu talu i gyfrannu at ein cymdeithas, ond hefyd y gost o beidio â gwneud mwy i ffurfio cymdeithas decach, oherwydd nid yw'r system dreth yng Nghymru yn adlewyrchu'n ddigonol incwm a phroffil cymdeithasol ein gwlad nac anghenion ein gwlad. Mae cyfle yma i newid hynny os dewiswn ei gymryd. Cyfle a chost, a byddai economegwyr yn gweld gwers yno.

Felly, gadewch inni edrych ar y manylion. Dim ond lleiafrif o bobl yng Nghymru sy'n talu treth incwm—tua 43 y cant o'n poblogaeth—oherwydd bod cymaint o bobl naill ai heb fod yn ennill digon neu wedi cyrraedd oedran ymddeol. Fel y clywsom, mae'r dreth incwm a gaiff ei chodi bron i gyd yn cael ei chodi ar y gyfradd sylfaenol, ac nid yw'r system a'r bandiau sydd gennym at ein defnydd yn caniatáu hyblygrwydd inni arfogi ein cymunedau yn well â'r arian y mae cymaint o'i angen arnynt. Oherwydd mae trethi'n rym er lles. Ni ddylai fod yn radical imi ddweud hynny, ond mae ystrydeb treuliedig y 'baich' treth yn cael ei dderbyn fel norm. Nid yw treth ond yn faich os ydym yn byw mewn cymdeithas lle nad yw gwasanaethau'n cael eu hariannu'n ddigonol i ddarparu ansawdd byw teilwng i'r holl ddinasyddion. Dyma ddyfyniad, Lywydd:

'Rwy'n hoffi talu trethi. Gyda hwy, rwy'n prynu gwareiddiad.'

Priodolir y geiriau hynny i Oliver Wendell Holmes yr Ieuengaf, Barnwr Cysylltiol i Oruchaf Lys yr UDA ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Ac mae trethi'n prynu cyfleoedd inni wneud pethau'n wahanol, i adeiladu rhywbeth gwell i bawb.

Os edrychwn ar y pwerau a drosglwyddwyd i'r Alban yn neddf 2012 ac wedi hynny yn 2016, mae wedi gallu gosod cyfradd is i'r rhai sydd ond yn cyrraedd y trothwy ar gyfer talu treth incwm er mwyn gwella'r cymorth i'r rhai sydd ei angen fwyaf. Mae'r pwerau ychwanegol yn prynu gobaith i'w cymunedau. Ac mae'r union ffaith nad oes gennym y pwerau hynny yng Nghymru wedi golygu bod yn rhaid codi refeniw drwy ddulliau eraill, mwy anflaengar. Mae Cymru wedi caniatáu i'r dreth gyngor godi'n sylweddol ers blynyddoedd, ac fel y mae Canolfan Llywodraethiant Cymru a Sefydliad Bevan wedi dweud yn glir dro ar ôl tro, mae'r cynnydd yn y dreth gyngor yn rhoi mwy o bwysau ar gyllidebau cartrefi. Yn syml, nid yw'n ffordd deg na blaengar o godi refeniw.

Yn fwy na hynny, caiff cyfran uwch o refeniw ei godi yng Nghymru drwy dreth ar werth na thrwy'r dreth incwm. Y gwrthwyneb sy'n wir yn Lloegr a'r Alban. Pam mae hynny'n bwysig? Wel, mae aelwydydd incwm is yn talu llawer mwy yn gyfatebol mewn trethi anuniongyrchol fel TAW nag y maent mewn treth incwm, felly unwaith eto mae'r bobl sydd leiaf abl i'w fforddio yn ysgwyddo mwy o bwysau. Nawr, mae hwnnw'n faich na ddylem fod yn ei weld. Ond mae yna gost, canlyniad, i wneud dim. Os ydym yn codi ein dwylo neu'n eistedd arnynt, nid yw'r gost honno'n diflannu; mae'n cronni, ac mae diflastod tawel miliynau yn parhau. Ond Lywydd, yn hytrach na hynny, gallem ddewis rhoi help llaw, ymyrryd, creu trefn fwy blaengar o dreth incwm, i weld treth fel ffordd o greu'r gymdeithas rydym ei heisiau. Dyna ein cyfle i gael gwared ar gyfyngiadau'r rhwymau a osodir gan y Trysorlys, i fynnu pwerau a fydd yn caniatáu mwy o ryddid i ni, mwy o hyblygrwydd, a chreu system sy'n gweithio go iawn i Gymru. Iawn, fe dderbyniaf yr ymyriad.