7. Dadl Plaid Cymru: Datganoli treth incwm

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:09 pm ar 8 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 6:09, 8 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu bod 92 y cant o drethdalwyr Cymru yn talu treth ar y gyfradd sylfaenol. Dim ond 0.3 y cant, prin 4,000, sy'n talu treth ar y gyfradd dreth ychwanegol. A ydych chi'n cydnabod y gall cyfraddau treth uwch, yn enwedig yn y mathau hynny o amgylchiadau, gynhyrchu refeniw treth is?