Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 14 Chwefror 2023.
Mae gwaith dadansoddi yn dangos bod yr argyfwng costau byw yn fwy tebygol o effeithio ar deuluoedd â phlant, yn enwedig plant o aelwyd sydd â nodweddion gwarchodedig. Rydyn ni'n cynorthwyo pobl ifanc a'u teuluoedd trwy fentrau, gan gynnwys ein cynnig gofal plant, cymorth gyda chostau ysgol, prydau ysgol am ddim, a'n gwarant i bobl ifanc.