Mawrth, 14 Chwefror 2023
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog. O dan Reol Sefydlog 12.58, y Trefnydd fydd yn ateb y cwestiynau heddiw ar ran y Prif...
1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith yr argyfwng costau byw ar bobl ifanc? OQ59151
2. Pa bwysau ychwanegol y mae'r argyfwng costau byw yn ei roi ar y GIG mewn perthynas â phobl â chyflyrau iechyd cymhleth sy'n byw gartref? OQ59125
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi lles trigolion Canol De Cymru sy'n parhau i wynebu perygl o lifogydd? OQ59119
5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch dyfodol cyllid ffyniant bro? OQ59122
6. Sut mae Llywodraeth Cymru'n amddiffyn trigolion Alun a Glannau Dyfrdwy rhag syrthio i dlodi tanwydd y gaeaf hwn? OQ59140
7. Pa gamau y mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus yn Aberconwy? OQ59113
8. Pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynnal gyda Llywodraeth y DU ynghylch cyllideb y DU ym mis Mawrth? OQ59123
9. Pa effaith y mae'r fframwaith adrodd ar lwybrau gofal wedi'i chael yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg? OQ59150
11. Pa gymorth ariannol y mae’r Llywodraeth yn ei gynnig i deuluoedd gyda phlant ag anghenion iechyd dwys yn sgil yr argyfwng costau byw? OQ59149
Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a'r Trefnydd fydd yn ateb cwestiynau eto. Fe wnaf alw ar y Trefnydd i gyflwyno'r datganiad hwnnw—Lesley Griffiths.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar yr adolygiad ffyrdd a'r cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth. Galw ar y Dirprwy Weinidog i wneud ei...
Eitem 4 y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar Fil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru). Galwaf ar y Gweinidog, Eluned Morgan.
Eitem 5 y prynhawn yma yw daganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar ddysgu digidol mewn addysg bellach. Galwaf ar y Gweinidog, Jeremy Miles.
Eitem 6 yw datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yr ymateb dyngarol i Wcráin. Galwaf ar y Gweinidog, Jane Hutt.
Mae eitem 7 wedi ei dynnu yn ôl.
Eitem 8, dadl ar setliad yr heddlu 2023-24. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig. Rebecca Evans.
Sy'n golygu ein bod ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ond does yna ddim pleidleisiau heddiw. Felly, dyna ni'n cyrraedd diwedd ein gwaith ni am heddiw. Diolch yn fawr i bawb.
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ymateb y Llywodraeth i'r cynnydd sylweddol presennol ym miliau aelwydydd?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia