Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 14 Chwefror 2023.
Diolch, Llywydd. Heddiw, bydd y Llywodraeth, trwy gyhoeddi'r adolygiad ffyrdd, yn datgan ei hymrwymiad i newid hanesyddol i bolisi a blaenoriaeth o ffyrdd i drafnidiaeth gyhoeddus. Felly, pam wnaethoch chi gyhoeddi'n hwyr ddydd Gwener mai'r cwbl yr oeddech chi'n ei wneud oedd oedi toriad trychinebus i gymorth ar gyfer gwasanaethau bysiau o ddiwedd mis Mawrth i ddiwedd mis Mehefin, a fydd yn anrheithio'n llythrennol yr hyn sydd i'r mwyafrif o bobl yn y rhan fwyaf o Gymru yr unig fath o drafnidiaeth gyhoeddus sydd ganddyn nhw?