Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 14 Chwefror 2023.
Diolch, Llywydd. Arweinydd y tŷ, un o ganolbwyntiau'r rhaglen ddeddfwriaethol a oedd ym maniffesto eich plaid oedd Deddf aer glân. Trafodwyd hyn ers blynyddoedd lawer cyn yr etholiad diwethaf. Rydyn ni'n dal yn ansicr ynghylch pryd y gallai'r Ddeddf aer glân hon gyrraedd Senedd Cymru. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni o ran pryd y gallem weld Bil yn dod i lawr y Cyfarfod Llawn yma fel y gallwn ni wneud cynnydd yn y maes hollbwysig hwn?