Effaith yr Argyfwng Costau Byw

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 14 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:33, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Nid wyf i wir yn siŵr o ble rydych chi'n meddwl y byddwn i'n cael yr arian ar gyfer y rhestr o ddymuniadau helaeth iawn honno. Ond dim ond ar eich pwynt penodol am drafnidiaeth am ddim i bobl dan 25 oed, fel y byddwch chi'n gwybod, mae'n rhaglen ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth, ac mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wrthi'n archwilio hynny ar hyn o bryd, ond, o ystyried ein setliad gwael iawn gan Lywodraeth y DU, mae'n mynd i fod yn anodd iawn ei gyflawni.