Cymorth Ariannol i Blant ag Anghenion Iechyd Dwys

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 14 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:15, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Roeddwn i'n trafod yn ystod ymweliad â Tŷ Gobaith yn ddiweddar, y pwysau sydd ar deuluoedd sydd â phlant sâl iawn, neu blant ag anghenion sylweddol iawn. Maen nhw'n wynebu heriau nad oes rhaid i'r rhan fwyaf ohonon ni wynebu bob amser, ond wrth gwrs mae'r argyfwng costau byw wedi ychwanegu'n enfawr at y pwysau sydd arnyn nhw. Rwy'n meddwl am deulu Gleave ger Amlwch, tri o blant—Katie, Kelly a Mason. Yn amlwg, mae'r pwrs cyhoeddus yn talu i staff llawn amser ofalu amdanyn nhw, ond mae cost gwresogi iddyn nhw, y gost o gynnal y rhesi o peiriannau sy'n eu cadw ar gymorth bywyd, yn sylweddol. Rwy'n meddwl am Pam a Mark a'r heriau y maen nhw'n eu hwynebu o ddydd i ddydd, dim ond yn gofalu am y plant. Nawr, mae teuluoedd yn yr un sefyllfa ym mhob rhan o Gymru. Rwy'n erfyn ar Lywodraeth Cymru i ystyried beth arall y mae modd ei wneud i roi'r cymorth iddyn nhw allu cefnogi eu plant yn iawn—ac os nad fydden nhw'n gallu eu cefnogi nhw gartref bydden nhw yn yr ysbyty, gyda'r costau enfawr y byddai hynny yn eu golygu ar gyfer y pwrs cyhoeddus. Felly, mae'n apêl i'r Llywodraeth ystyried eto yr hyn y gallai ei wneud i'w helpu.