Part of the debate – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 14 Chwefror 2023.
Diolch, Gweinidog. Roeddwn i wedi gobeithio y byddai pawb yn y Siambr yn cytuno mai mynd i'r afael â newid hinsawdd yw un o heriau mwyaf ein hoes. Mae'r wyddoniaeth yn eglur: os na wnawn ni gymryd camau beiddgar i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, ni fydd gennym ddyfodol. Felly, mae'n rhaid gweld yr adolygiad ffyrdd a'r holl benderfyniadau anodd y mae hynny'n eu golygu yn y cyd-destun hwnnw. Mae'r egwyddor yn un yr wyf i'n ei chroesawu—sut na allem ni? Ond, mae'r polisi ymhell o fod yn berffaith, oherwydd mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd o helpu pobl i newid eu bywydau, ond mae llawer o'r ardaloedd lle mae prosiectau adeiladu ffyrdd wedi cael eu gohirio yn cael eu tanwasanaethu gan gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus eisoes. Mae pryderon gennyf i, Gweinidog, am yr effaith a gaiff hyn ar fywydau pobl sy'n byw yn yr ardaloedd hynny. Mae llawer o bobl yng nghefn gwlad Cymru yn dibynnu ar gerbydau preifat i fynd o gwmpas, yn union fel mae llawer o bobl yng nghymunedau'r Cymoedd yn dibynnu ar fysiau. Mae'n rhaid i ni, wrth gwrs, newid yr orddibyniaeth honno ar geir, ond ni fydd hynny'n digwydd dros nos. Dyma'r cyfnod pontio sy'n peri'r pryder mwyaf i mi, oherwydd fe fydd yna lawer o bobl yn dibynnu ar ffyrdd i gyrraedd eu gwaith, i allu cael gafael ar wasanaethau hanfodol, i ymweld â ffrindiau a theulu, ac fe allai ataliad ffyrdd newydd heb, efallai, fuddsoddiad mwy penodol mewn trafnidiaeth gyhoeddus olygu teithiau hirach, cynnydd mewn costau teithio a rhwystro hygyrchedd gwasanaethau pwysig. Felly, yr elfen cyfiawnder cymdeithasol yn hyn o beth sy'n fy mhoeni i. Dyna pam rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i Lywodraeth Cymru fod yn eglur ynghylch pa gamau eraill y bydd hi'n eu cymryd ar gyfer yr ymateb cwbl hanfodol i lygredd aer.
Fe wn i fod lleihau allyriadau o drafnidiaeth yn rhan hanfodol o'r ateb. Ni all hwnnw fod yr unig ateb, wrth gwrs. Mae angen i ni ystyried anghenion pob cymuned, a chydweithio i ddod o hyd i ffyrdd o leihau allyriadau a gwella ansawdd aer. Felly, o ran y camau eraill y mae angen i Lywodraeth Cymru eu cymryd i ymateb i lygredd aer, siawns nad oes angen i hyn i gyd fod yn fuddsoddiad mewn dulliau teithio amgen, fel trafnidiaeth gyhoeddus. Mae'n siŵr mai dyma'r amser pwysicaf i hyrwyddo a rhoi sicrwydd o ran cyllid i drafnidiaeth gyhoeddus. Rwy'n dymuno ategu'r sylwadau a wnaethpwyd yn barod yn y Siambr yn gynharach heddiw ynglŷn â sicrwydd o gyllid i wasanaethau bws.
Nawr, fe wn i fod teithio llesol, Gweinidog, yn rhywbeth sy'n agos at eich calon, ac rwy'n croesawu'r pwynt a wnaethoch chi am roi blaenoriaeth i ffyrdd ar gyfer llwybrau teithio llesol at fysiau. Fe fyddwn i'n croesawu mwy o wybodaeth am hynny, oherwydd fe fyddai buddsoddi yn y dulliau amgen hyn yn lleihau nifer y ceir ar y ffordd ac yn helpu i leihau allyriadau. Siawns na ddylem ni fod yn buddsoddi hefyd mewn seilwaith cerbydau trydan fel gall pobl newid i fathau glanach, mwy cynaliadwy o drafnidiaeth. Mae'r tanariannu yn y maes hwnnw'n alaethus. Mae croeso i ni ddweud ein bod ni'n awyddus i fod â gwell gwasanaethau bws a newid dulliau teithio. Nid dim ond croeso sydd i hynny, mae'n rhywbeth hanfodol. Ond, fel gyda'r pethau hyn i gyd, fe fyddan nhw'n dal i fod yn ddibynnol ar ffyrdd. Eto i gyd, y pontio sy'n fy mhoeni i.
Yn ail, a fyddech chi'n cytuno, Gweinidog, bod angen i ni hyrwyddo parthau allyriadau isel yn ein dinasoedd i helpu i leihau allyriadau yn ein hardaloedd mwyaf poblog a gwella ansawdd aer i'r rhai sy'n byw ac yn gweithio yn y mannau hynny? Rwy'n credu bod rhywbeth arbennig i'w ddweud am fonitro llygredd aer yn well, yn enwedig y tu allan i ysgolion. Unwaith eto, mae angen ymgymryd â'r ymyriadau hyn ar y cyd, wrth gwrs, â'r cynllun.
Yn olaf, a ydych chi'n cytuno bod angen i ni addysgu a grymuso pobl gyda gwybodaeth am bwysigrwydd lleihau allyriadau a'r effaith y mae llygredd aer yn ei gael ar ein hiechyd ni? Oherwydd os ydym ni'n gweithio gyda'n gilydd i annog pobl i wneud dewisiadau cynaliadwy fel defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus—lle mae honno ar gael, wrth gwrs, a'i gwneud yn fwy hygyrch—beicio, lleihau'r defnydd o ynni, fe fyddai hynny'n helpu i newid, efallai, y syniad nad yw pobl yn teimlo mai rhywbeth sy'n cael ei wneud er eu mwyn nhw yw hyn, a'i fod yn benderfyniad y maen nhw'n rhan ohono hefyd, ac yn cael eu dysgu am eu cyfranogiad drwy'r system addysg.
Felly, mae'r polisi adolygu ffyrdd, rwy'n credu, yn gam i'r cyfeiriad cywir. Mae hwnnw'n gyfeiriad y mae'n rhaid i ni fynd iddo, neu fe gawn ein llyncu gan fwrllwch, ond mae'n rhaid tywys pobl i'r cyfeiriad hwnnw. Mae angen llwybr trwodd iddyn nhw gyrraedd yno. Nid yw'r polisi yn berffaith, ond mae angen dull cynhwysfawr, integredig arnom ni o fynd i'r afael â llygredd aer, i leihau allyriadau. Fe ddylai gynnwys yr holl ddarnau amrywiol hyn yn dod at ei gilydd ochr yn ochr ag amaethyddiaeth gynaliadwy ac addysg.
Rwy'n credu hefyd fod y pwynt amlwg yn hyn o beth yn ymwneud â deddfwriaeth. Mae angen y Bil aer glân arnom ni'n fuan. Fe fyddai croeso mawr i ddiweddariad ynglŷn â hynny hefyd. Gyda'n gilydd, mae'n rhaid i ni greu dyfodol glanach, gwyrddach, mwy cynaliadwy i Gymru. Rwy'n credu ein bod ni eisiau yma—. Mae'n rhaid i ni fod ar y ffordd i'r un gyrchfan, ond mae angen i ni ei gwneud hi'n haws ac nid yn anos i bobl gyrraedd yno. Felly, gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i wireddu hynny.