Part of the debate – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 14 Chwefror 2023.
—byddai gennym ddadl gyfoethocach. Mae'r mater bod gwariant ar deithio llesol yn is na lle byddem wedi hoffi ei weld yn fater o gapasiti mewn awdurdodau lleol. Mae hynny'n fater yr ydym ni'n mynd i'r afael ag ef gydag awdurdodau lleol, nad ydynt, yn syml, yn gallu gwario'r gyllideb rydyn ni'n ei darparu ar eu cyfer. Dyna pam mae'r arian lle mae e. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn ni i gyd wneud yn well na hyn, oherwydd nid yw'n mynd i fynd i'r afael ag unrhyw un o'r problemau rydyn ni'n eu hwynebu. Dim ond mân-siarad hurt yw hwn.