Part of the debate – Senedd Cymru am 3:47 pm ar 14 Chwefror 2023.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i herio'r Dirprwy Weinidog oherwydd dywedodd ddau beth ffeithiol anghywir, yn fy marn i, yma heddiw. Ar un, fe ddywedoch chi fod—. Wnes i ond codi gyda chi ynghylch y ddwy gylchfan yn fy etholaeth, a gwnaethoch chi'r pwynt fy mod i'n dweud un peth nawr, ond fy mod i wedi dweud rhywbeth arall yn wahanol, fy mod i'n croesawu'r ffaith eu bod nhw'n aros. Wel, gadewch i mi eich atgoffa chi o hyn: ar 16 Chwefror 2022, dywedais i
'Ni fydd yn syndod, Ddirprwy Weinidog, fy mod yn codi i herio eich penderfyniad i roi'r gorau i'r cynlluniau i gael gwared ar gylchfannau ar.... Mae'r cynlluniau hyn wedi bod ar y gweill ers 2017, ac wedi bod yn destun llawer o asesiadau costus' gan gostio tua £9 miliwn i'r trethdalwr. Ac, mewn gwirionedd, dyna'r sefyllfa sydd gennym ni i heddiw. Felly, hoffwn i ymddiheuriad neu wrthdyniad.
Gwnaethoch chi ddweud hefyd nad oedd dim ar y pryd a oedd yn dangos bod unrhyw broblemau diogelwch, a dywedais i wrthych chi bryd hynny hefyd:
'Nawr, mae adroddiad Llywodraeth Cymru ei hun yn tynnu sylw at bryderon diogelwch gan nad yw cyffyrdd yn cydymffurfio â'r safonau dylunio presennol; oedi traffig o ganlyniad i ddiffyg cadernid y rhwydwaith; diffyg llwybrau gwyro addas'.
Ond, y peth yw, mae'n rhaid i ni fod yn glir iawn pan ydyn ni'n siarad yn y Siambr hon nad ydyn ni'n bwriadu camarwain. Nid ydw i'n credu eich bod chi wedi mynd ati i gamarwain, ond hoffwn i chi gywiro'r cofnod. Diolch.