Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 15 Chwefror 2023.
Rwy’n ddiolchgar iawn am y cwestiwn a hefyd, fel y mae Cefin Campbell wedi’i wneud, am gydnabod y rôl bwysig y mae bysiau yn ei chwarae'n gwasanaethu ein cymunedau gwledig yn arbennig. Fe ofynnaf i’r Dirprwy Weinidog roi mwy o ddiweddariadau wrth i’r trafodaethau hynny barhau oherwydd, fel y dywedaf, ef sy'n arwain ar y trafodaethau hynny, ond credaf mai un peth y byddai’n debygol o fod yn awyddus i dynnu sylw ato yw pwysigrwydd ein cynllun peilot Fflecsi. Bu'n gyfleuster hynod bwysig mewn rhai ardaloedd gwledig, gan gynnwys cynlluniau yn nyffryn Conwy ac yn sir Benfro, ond hefyd mewn rhai ardaloedd trefol, gan gynnwys Casnewydd a threfi llai fel Dinbych a Rhuthun. Credaf fod llawer i'w ddysgu o'r rheini, ond eto, nid yw hynny'n rhywbeth a fydd yn datblygu'n gyflym dros nos, ond yn sicr, mae'n rhywbeth y credaf fod ganddo ran bwysig iawn i'w chwarae yn y tymor hwy.