Mercher, 15 Chwefror 2023
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da. Croeso i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol. Mae'r cwestiwn cyntaf heddiw gan Hefin David.
1. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith posib o gynyddu'r gyfradd sylfaenol o dreth incwm yng Nghymru? OQ59146
2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynglŷn â chymorth Llywodraeth Cymru i leihau'r pwysau ariannol ar...
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Peter Fox.
3. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynglŷn ag effaith cyllideb ddrafft y Llywodraeth ar ddyfodol parciau cenedlaethol? OQ59135
Mae Deddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964 yn ei gwneud yn ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru—
5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i gefnogi ac ariannu parhad cydwasanaethau? OQ59139
6. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2023-24 ar awdurdodau lleol? OQ59141
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gyllideb Cyngor Sir Ynys Môn? OQ59132
8. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi ynghylch cyllid i awdurdodau lleol i hyrwyddo cyfleoedd prentisiaethau i ddysgwyr ifanc? OQ59131
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Materion Gwledig a'r Gogledd, ac mae'r cwestiwn cyntaf heddiw gan Heledd Fychan.
1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau ledled Canol De Cymru i gael mynediad at ofodau gwyrdd cymunedol? OQ59118
2. Sut fydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi datblygu gwledig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru wrth i gyllid yr UE ddod i ben? OQ59133
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz.
3. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i ddenu pobl ifanc i yrfaoedd ym myd ffermio ac amaeth? OQ59144
4. Beth mae'r Gweinidog yn ei wneud i gefnogi'r diwydiant wyau yn Nwyrain De Cymru? OQ59130
5. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynglŷn ag effaith Bil Amaethyddiaeth (Cymru) ar y rhaglen weithredu genedlaethol ar fawndiroedd? OQ59136
6. A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa effaith y mae costau byw cynyddol wedi'i chael ar les anifeiliaid? OQ59111
7. Pa ystyriaeth mae Llywodraeth Cymru wedi ei rhoi i wahardd rasio milgwn? OQ59110
8. Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i wella rheolaeth cŵn? OQ59114
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau amserol. Un cwestiwn heddiw, a hwnnw i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ac i'w ofyn gan Delyth Jewell.
1. Pa sicrwydd wnaiff y Gweinidog ei ddarparu na fydd symud i ffwrdd o gyllido’r cynllun brys ar gyfer bysiau yn arwain at gau llwybrau bysiau ac yn golygu bod gwasanaethau bysiau gwledig...
Nid oes unrhyw ddatganiadau 90 eiliad y prynhawn yma.
Felly, symudwn ymlaen at eitem 5, dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ar lwfans cynhaliaeth addysg. A galwaf ar Luke Fletcher i wneud y cynnig.
Eitem 6 y prynhawn yma yw dadl gyntaf y Ceidwadwyr Cymreig—yr ymosodiad ar Wcráin a chefnogi ffoaduriaid o Wcráin. Galwaf ar Mark Isherwood i wneud y cynnig.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Mae gyda ni bleidleisiau ar eitem 5 ac eitem 7. Eitem 5 sydd gyntaf. Mae'r bleidlais yma ar y ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ar y lwfans...
Rŷn ni'n mynd ymlaen i'r ddadl fer.
Diolch i'r Gweinidog. Symudwn nawr i'r ail ddadl fer, a galwaf ar Siân Gwenllian i siarad.
Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi'i wneud o nifer y personél o fewn awdurdodau lleol sy'n cael eu talu o dan reolau gwaith oddi ar y gyflogres IR35?
Sut mae'r Gweinidog yn hybu datblygu gwledig yng Ngogledd Cymru?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia