Cyllideb Cyngor Sir Ynys Môn

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 15 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:15, 15 Chwefror 2023

Diolch am yr ymateb yna. Mae cyllidebau yn dynn ar bob awdurdod, wrth gwrs, ond weithiau mae yna bethau’n codi sy’n rhoi straen aruthrol ar gyllidebau. Mae cyngor Môn yn wynebu hynny rŵan yn sgil cyhoeddiad cwmni 2 Sisters Food Group eu bod nhw’n ymgynghori ar gau gwaith yn Llangefni, lle mae dros 700 yn gweithio. Y flaenoriaeth, wrth gwrs, ar hyn o bryd yw gweld a oes modd newid meddwl y cwmni, ond does dim rhaid imi ddweud faint o arian y byddai ei angen ar gyngor i ymateb i golli swyddi o’r math yna ar raddfa o’r math yna, mewn ardal fel Ynys Môn. Mae nifer yr unigolion a’r teuluoedd a fydd angen cymorth yn fawr—angen cymorth ar wasanaethau tai, gwasanaethau plant, ac yn y blaen.

A wnaiff y Gweinidog roi sicrwydd y bydd hi’n barod i edrych ar roi cymorth ychwanegol i gyngor Môn, ar ben eu cyllid sylfaenol, er mwyn gallu ymateb i’r sefyllfa a’i galluogi nhw i roi cefnogaeth angenrheidiol i’r gweithwyr a’u teuluoedd?