Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 15 Chwefror 2023.
Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaeth llyfrgell. Mae Deddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr ac effeithlon. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi darpariaeth llyfrgelloedd lleol drwy gronfa grant cyfalaf a thrwy fuddsoddi mewn datblygu gwasanaethau arloesol ar gyfer cymunedau lleol.